Mae Castell Henllys yn fryngaer o Oes yr Haearn yng ngogledd Sir Benfro, de-orllewin Cymru, rhwng Trefdraeth ac Aberteifi (cyfeiriad grid SN117390). Fe'i lleolir ar fryn isel ar lan Afon Duad, ffrwd fechan sy'n llifo i Afon Nyfer gerllaw, rhwng Nyfer ac Eglwyswrw.

Castell Henllys
Mathsafle archaeolegol, bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig, caer bentir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro, Nanhyfer Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0178°N 4.7453°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN11723905 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE175 Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Mae safle Castell Henllys wedi cael ei gloddio yn barhaol ers ugain mlynedd, ac mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer arbrofion archaeolegol i geisio ail-greu dulliau ffermio cynhanesyddol a'r ffordd o fyw yn y cyfnod. Ar y safle ceir pedwar cwt crwn a storfa grawnfwyd sydd wedi cael eu codi ar y sylfeini Oes yr Haearn gwreiddiol.

Ni fu Castell Henllys yn fryngaer fawr. Mae'n perthyn i ddosbarth o fryngaerau bychain sy'n arbennig o niferus yn ne-orllewin Cymru.

Yn ystod yr haf mae'r safle yn fan ymarfer i archaeolegwyr ifainc.

Mae'r safle yn atyniad twristaidd poblogaidd erbyn hyn ac yn cael ei redeg gan awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dolenni allanol golygu