Catalina (Cymeriad Grand Theft Auto)

cymeriad Grand Theft Auto

Mae Catalina yn gymeriad yn y gyfres Grand Theft Auto sy'n ymddangos fel y prif wrthwynebydd yn Grand Theft Auto III ac fel un o'r prif gymeriadau yn Grand Theft Auto: San Andreas.

Catalina
Catalina yn GTA III
Bu farw2001 Edit this on Wikidata
Liberty City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethgangster, llofrudd cyfresol Edit this on Wikidata
PerthnasauCesar Vialpando Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Mae Catalina yn droseddwr yn Red County yn GTA San Andreas ac yn arweinydd Cartel y Colombiaid yn GTA III. Mae hi hefyd yn gyfnither arweinydd y gang Varrios Los Aztecas, Cesar Vialpando. Cafodd ei magu gan lystad oedd yn ei cham-drin.[1] Dydy ei chyfenw ddim yn cael ei chrybwyll, ond mae'n bosib ei bod hi'n rhannu cyfenw ei chefnder. Catalina yw'r unig brif wrthwynebydd benywaidd yn y gyfres, a gan na fu prif gymeriad benywaidd yn y gyfres hyd yn hyn (Mehefin 2018) hi yw benyw fwyaf amlwg y gyfres.[2]

Er bod GTA III wedi ei gyhoeddi rhai blynyddoedd cyn Grand Theft Auto: San Andreas, mae stori San Andreas wedi ei osod ym 1992 tra fo GTA III wedi ei osod yn 2001, sy'n golygu bod San Andreas yn rhoi hanes Catalina cyn ei ymddangosiad yn GTA III.

Catalina San Andreas golygu

Mae Catalina, menyw sydd o dras Mecsicanaidd a Colombiaidd yn byw mewn caban adfeiliedig yn Fern Ridge, Red County[3]. Mae Fern Ridge yn ardal goediog ddiarffordd yn rhan wledig Talaith San Andreas. Wrth ochr y caban mae tri beddrod lle mae Catalina wedi claddu gweddillion pobl roedd wedi llofruddio, sydd yn dangos bod ganddi hen law troseddol cyn iddi gyfarfod a Carl "CJ" Johnson prif gymeriad GTA: San Andreas

Mae Kendal, chwaer CJ, yn canlyn Cesar Vialpando arweinydd y gang Lladin-Americanaidd Varrios Los Aztecas. Mae heddwas llwgr, Frank Tenpenny ar fin cael ei rhoi ar brawf am ei lygredigaeth, gan hynny mae'n trio cael gwared â'r sawl sy'n gallu rhoi tystiolaeth yn ei erbyn, gan gynnwys CJ. Mae CJ yn cael ei orfodi i adael ei gartref yn ninas Los Santos. Mae Cesar yn awgrymu y gallai cael lloches a modd i ennill tamaid trwy gyfarfod a'i chyfnither, Catalina.

Mae Carl yn cyfarfod Catalina gyntaf mewn tŷ tafarn lle mae hi'n ymladd dau ddyn gyda chyllell. Mae'r ddau yn dechrau cael perthynas rhywiol, er nad yw CJ i'w gweld yn awyddus iawn efo'r perthynas, yn enwedig hoffter Catalina o BDSM[4]. Mae Catalina yn dweud wrth CJ ei bod hi wedi ymchwilio i'r cyfleoedd o gyflawni lladradau hawdd yn yr ardal ac wedi dewis pedwar busnes i ddwyn oddi wrthynt. Mae'r ddau yn dwyn tancer o betrol o garej yn Dillmor ac yn ei werthu i RS Haul yn Flint County. Wedi gwerthu'r petrol bydd modd i CJ gwneud tasgau i Mr Whittaker y perchennog ac o lwyddo ym mhob un dasg, caffael y busnes a chasglu $2000 y dydd ohoni[5]. Mae'r ddau yn mynd i ladrata o siop gwerthu gwirod ym mhentref Bluberry, ond wrth iddynt gyrraedd mae gang o ddihirod eisoes wrthi yn dwyn o'r siop. Mae'r dihirod yn ffoi ar gefn beiciau cwad ac mae Catalina a CJ yn eu herlid a'u saethu er mwyn cael yr arian oedd wedi dwyn[6]. Maent yn lladrata o siop betio ym mhentref Montgomery, ond mae'r heddlu yn cyrraedd ac mae'n rhaid iddynt ffoi yn ôl i'r caban efo llwyth o geir heddlu ar eu holau.[7] Mae'r ddau yn cynnal lladrad banc ym mhentref Palomino Creek, mae un o'r staff yn pwyso'r larwm ac mae'r heddlu yn amgylchynu'r banc. Rhaid i'r ddau ffoi o'r banc wrth i'r heddlu saethu atynt.[8]

Wedi'r lladrad olaf mae'r ddau yn torri fyny wedi i Catalina dechrau perthynas efo Claude, perchennog gweithdy trwsio ceir yn ninas San Fierro. Mae Catalina yn herio ei chariad newydd a'i chyn cariad i rasio ei gilydd mewn ceir. Mae Claude yn colli'r ras ac yn gorfod ildio ei modurdy i CJ yn lle talu dyled bet. Mae Catalina yn dweud wrth CJ bod hi a Claude am symud i Liberty City. Er bod eu perthynas ar ben mae Catalina'n parhau i ffonio CJ i atgoffa fo am y rhyw mae'n colli allan arno tra bod hi efo Claude.

Catalina Grand Theft Auto III golygu

Yn 2001 Mae Claude a Catalina yn dwyn arian o fanc yn Liberty City. Wedi'r lladrad mae Catalina yn saethu Claude. Mae'r heddlu yn dod o hyd iddo wedi anafu ac mae'n cael ei ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar. Mae'n cael ei drosglwyddo i'r carchar gyda dau garcharor arall, gwr o'r enw 8-Ball a hynafgwr di enw. Wrth groesi Pont Callahan i Ynys Portland Vale mae gang o Golombiaid yn ymosod ar fan y carchar er mwyn ryddhau'r gŵr dienw, mae Claude a 8-Ball yn dianc ar yr un pryd. Mae Claude yn mynd ymlaen i weithio gyda theulu maffia Teulu Leone. Mae Catalina yn dechrau perthynas newydd efo Miguel, un o benaethiaid gang Cartel y Colombiaid. Mae'r ddau gang yn brwydro yn erbyn ei gilydd. Mae'r ddau gyn cariad yn troi'n elynion pennaf.

Mae Salvatore Leone, pennaeth y Teulu Leone yn clywed bod cymeriad o'r enw Curly Bob yn gollwng gwybodaeth am y Teulu i'r Colombiaid mae'n gofyn i Claude i'w dilyn er mwyn hel tystiolaeth. Mae o'n canfod Bob yn siarad efo Miguel a Catalina, ger llong nwyddau yn yr harbwr, ac yn ei ladd am ei drosedd. Mae'r llong yn yr harbwr yn cael ei ddefnyddio gan Catalina a'r Colombiaid i greu cyffur o'r enw SPANK. Mae Claude yn ei distrywio efo ffrwydron.

Er mwyn gwneud ei gŵr yn eiddigeddus mae Maria Latore, gwraig Salvatore yn dweud wrtho ei bod wedi cael perthynas efo Claude ac mae Salvatore yn penderfynu lladd y ddau. Mae Maria yn clywed am y cynllun ac mae hi a Claude yn dianc o Ynys Portland i Ynys Shoreside Vale mewn cwch sy'n eiddo i Asuka Kasen, ffrind i Maria. Wedi i Claude syrthio allan efo Salvatore Leone a'i ladd, mae'n dechrau gweithio i Asuka, sy'n bennaeth y Yakuza; maffia Japaneaid. Mae'r Yakuza hefyd yn elynion i Gartel y Colombiaid yn enwedig wedi i frawd Asuka cael ei lofruddio gan y Colombiaid (ond mewn gwirionnedd gan Claude, gan ddefnyddio car Cartel y Colombiaid fel arf).

Mae'r Colombiaid yn herwgipio Maria ac yn llofruddio Asuka. Maent yn cysylltu â Claude i ddweud wrtho fod yn rhaid iddo dalu pridwerth o $500,000 yn gyfnewid am ryddhau Maria. Pan fydd Claude yn herio Catalina, mae hi'n ceisio ei ladd, ond mae o'n dianc. Yn y frwydr ddilynol, mae Catalina yn ceisio ffoi mewn hofrennydd ac yn gwneud ymgais derfynol i ladd Claude. Wedi lladd yr aelodau Cartel sy'n weddill ac achub Maria, mae Claude yn saethu'r hofrennydd yn yr awyr, gan ladd Catalina[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. Rockstar North (29 Hydref 2004). Grand Theft Auto: San Andreas. PlayStation 2. Rockstar Games. They had to die because YOU were slow and stupid, like a big fat brat that eats chocolates while his father gives nothing to his stepdaughter but stale bread!
  2. Schedeen, Jesse (28 Ebrill 2008). "GRAND THEFT AUTO: FAVORITE BADASSES". IGN UK. Cyrchwyd 10 Mehefin 2010.
  3. "Catalina". GTA Fandom. Cyrchwyd 10 Mehefin 2018.
  4. GTA: San Andreas; Clip cyflwyno'r dasg Gone Courting
  5. "Mr Whittaker". GTA Fandom. Cyrchwyd 10 Mehefin 2018.
  6. "GTA San Andreas Remastered - Mission #32 - First Base / Local Liquor Store (Xbox 360 / PS3)". Youtube. Cyrchwyd 10 Mehefin 2016.
  7. "Mission #33 - Gone Courting / Against All Odds (Xbox 360 / PS3)". YouTube. Cyrchwyd 10 Mehefin 2018.
  8. "Mission #34 - Made in Heaven / Small Town Bank (Xbox 360 / PS3)". YouTube. Cyrchwyd 10 Mehefin 2018.
  9. "Missions in GTA III". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)