Pentref a phlwyf sifil yng yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Catterick,[1] fe'i gelwir weithiau yn Catterick Village i'w wahaniaethu oddi wrth wersyll y fyddin gerllaw, Catterick Garrison. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Richmondshire.

Catterick
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolRichmondshire
Poblogaeth3,155 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.372°N 1.623°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04007465 Edit this on Wikidata
Cod OSSE240980 Edit this on Wikidata
Cod postDL10 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,155.[2]

Hanes golygu

Dyddia'r pentref o'r cyfnod Rhufeinig, pan oedd Cataractonium yn gaer Rufeinig yn gwarchod y groesfan dros Afon Swale. Cyfeirir ar y lle yn Geographia Ptolemi fel Κατουρακτονιον.

Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai Catterick yw Catraeth, lle bu brwydr rhwng teyrnas y Gododdin a'r Eingl tua'r flwyddyn 600. Clodfodir yr arwyr a syrthiodd yn y frwydr hon yn y gerdd Y Gododdin gan Aneirin. Yng Nghanu Taliesin, sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir Urien Rheged, arglwydd Rheged fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).

Yr ysgolhaig Cymreig Thomas Stephens yn y 19g oedd y cyntaf i gynnig mai Catterick oedd "Catraeth" Y Gododdin. Derbyniwyd hyn gan Syr Ifor Williams a chan y rhan o ysgolheigion ers hynny.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 1 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 1 Medi 2020