Cecil Day-Lewis
Bardd Gwyddelig–Seisnig yn yr iaith Saesneg oedd Cecil Day-Lewis (27 Ebrill 1904 – 22 Mai 1972) sy'n nodedig fel un o "feirdd newydd" adain-chwith y 1930au ac am ei farddoniaeth delynegol ddiweddarach. Cyhoeddodd ei farddoniaeth dan yr enw C. Day-Lewis, ac ysgrifennodd hefyd nofelau ditectif dan y ffugenw Nicholas Blake.[1] Gwasanaethodd yn swydd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 2 Ionawr 1968 hyd ei farwolaeth.
Cecil Day-Lewis | |
---|---|
Ffugenw | Nicholas Blake |
Ganwyd | 27 Ebrill 1904 Swydd Laois |
Bu farw | 22 Mai 1972 Lemmons |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, llenor, sgriptiwr, academydd, beirniad llenyddol, awdur plant, cyfieithydd |
Swydd | Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig |
Cyflogwr |
|
Tad | Frank Day-Lewis |
Mam | Kathleen Blake Squires |
Priod | Mary King, Jill Balcon |
Partner | Rosamond Lehmann |
Plant | Daniel Day-Lewis, Tamasin Day-Lewis, Sean Day-Lewis |
Gwobr/au | CBE |
Ganwyd yn Ballintubbert, Swydd Laois, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, yn fab i weinidog yn Eglwys Iwerddon. Symudodd y teulu i Loegr yn 1905 a chafodd Cecil ei addysg yn Ysgol Sherborne, Dorset, ac yng Ngholeg Wadham, Rhydychen. Yno daeth yn gyfeillgar â W. H. Auden, a chyd-olygwyd y cylchgrawn Oxford Poetry ganddynt yn 1927. Wedi'r brifysgol, gweithiodd fel ysgolfeistr tan 1935. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Transitional Poem, yn 1929.
Trwy gydol y 1930au bu'n weithgar yng nghylchoedd diwylliannol yr adain chwith. Cyfranodd at y Left Review a'r Left Book Club, a golygodd y casgliad o ysgrifau sosialaidd The Mind in Chains yn 1937. Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr yn 1936. Adlewyrchir ei daliadau chwyldroadol yn y cyfrolau o gerddi From Feathers to Iron (1931) a The Magnetic Mountain (1933) ac yn yr astudiaeth feirniadol A Hope for Poetry (1934). Derbyniad llugoer a gafodd Noah and the Waters (1936), drama foes fydryddol ar bwnc brwydr y dosbarthiadau, a throdd yn ddiweddarach at themâu personol a chanu natur yn hytrach na barddoniaeth wleidyddol.[2] Ysgrifennodd ryw ugain o nofelau ditectif dan y ffugenw Nicholas Blake, gan gynnwys A Question of Proof (1935), Minute for Murder (1948), a Whisper in the Gloom (1954),
Dewiswyd Day-Lewis i draddodi darlithoedd Clark ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 1946, a chyhoeddwyd y rheiny yn y gyfrol The Poetic Image (1947). Cyfieithodd gweithiau Fyrsil ar fydr o Ladin i Saesneg: y Georgicon (1940), yr Aeneidos (1952; ar gais y BBC), a'r Eclogae (1963). Penodwyd Day-Lewis yn athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1951, a daliodd y swydd honno nes 1956. Cyhoeddodd ei hunangofiant, The Buried Day, yn 1960. Ymhlith ei gyfrolau diweddarach o gerddi mae The Room and Other Poems (1965) a The Whispering Roots (1970). Penodwyd yn Fardd Llawryfog yn sgil marwolaeth John Masefield.
Bu farw yn Hadley Wood, Swydd Hertford, o ganser y pancreas, yn 68 oed. Mae un o'i feibion, Daniel Day-Lewis, yn actor o fri.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) C. Day-Lewis. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Mehefin 2019.
- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 262.
Darllen pellach
golygu- Sean Day-Lewis, C. Day-Lewis: An English Literary Life (Llundain: Weidenfeld and Nicolson, 1980).
- Joseph N. Riddel, C. Day Lewis (Efrog Newydd: Twayne, 1971).
Rhagflaenydd: John Masefield |
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig 2 Ionawr 1968 – 22 Mai 1972 |
Olynydd: John Betjeman |