Ceinwen Rowlands
Soprano Gymreig oedd Ceinwen Rowlands (15 Ionawr 1905 – 12 Mehefin 1983).[1] Ymddangosodd Ceinwen ar lwyfan gyda Kathleen Ferrier, ac enwogion eraill y cyfnod.[2]
Ceinwen Rowlands | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ionawr 1905 Caergybi |
Bu farw | 12 Mehefin 1983 Ysbyty Clattebridge |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr |
Math o lais | soprano |
Ganwyd Ceinwen ym Morthaethwy, Ynys Môn, yn ferch i William a Kate Rowlands (neé Jones) a oedd yn rhedeg yr “Anglesey Emporium”, siop ddillad dynion yn y dref, tan iddo ymddeol yn 1929. O Gerigydrudion, Sir Ddinbych yr hanai Kate ei mam yn wreiddiol, ac roedd hithau'n gantores amlwg yn ei dydd. Addysgwyd Ceinwen yn Ysgol Morgan Jones, Caergybi, ac yna yn Ysgol Sir y Merched, Bangor. Tra yn yr ysgol, astudiodd ganu am naw mlynedd gyda Robert (neu Wilfred) Jones.
Cystadlu a gyrfa
golyguWedi iddi ennill dwy wobr gyntaf am ganu yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Wyddgrug 1923 a Phwllheli 1925 derbyniodd lawer o ymrwymiadau i ganu ledled Cymru ac fe'i derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1927, y flwyddyn pan drodd yn gantores broffesiynol. Aeth i'r Coleg yn Llundain yn Ionawr 1930 lle'r astudiodd wrth draed Plunket Greene a Mabel Kelly; datblygodd i fod yn un o brif gantorion soprano Cymreig ei chenhedlaeth, ac roedd galw mawr am ei gwasanaeth mewn cyngherddau a darllediadau radio. Canodd yng nghyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o adegau, gan gynnwys y perfformiad Cymraeg cyntaf o Emyn o Fawl (Lobgesang), gan Mendelssohn, yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1943. Roedd yn un o leisiau bale Ninette de Valois, Orpheus and Eurydice yn 1941.[3] ac yn un o brif unawdwyr yn Messiah yn Cradley Heath yn 1945.[4]
Yn ei chyfnod euraidd, perfformiodd mewn dros 200 o berfformiadau.[5]
Priododd yn 1946 ag Arthur Walter, brodor o deulu Cymreig, o Portsmouth, a ddaliai swydd Prif Dderbynnydd Swyddogol mewn Methdaliadau. Bu ef farw yn 1967. Symudodd i Lundain yn 1972, ac ar ôl treulio dros ddeugain mlynedd yno symudodd i'r Rhyl.[5]
Recordiadau
golyguRecordiodd nifer o eitemau Cymraeg i gwmni Decca, gan gynnwys caneuon gan Meirion Williams, D. Vaughan Thomas, Mansel Thomas a Morfydd Llwyn Owen.[6].
- Decca 2; AM 626; DR 12795-1: Welsh Music (Cerddorfa Boyd Neel gyda Mansel Thomas; dim dyddiad)[7]
- Decca 2; AM 627; DR 12793-1: Welsh Music (Cerddorfa Boyd Neel gyda Mansel Thomas; dim dyddiad)
- Decca 2; AM 627; DR 12794-1: Welsh Music (Cerddorfa Boyd Neel gyda Mansel Thomas; dim dyddiad)
Cau'r lleni
golyguBu farw 12 Mehefin 1983 yn ddi-blant, yn ysbyty Clatterbridge, Swydd Gaer, ac amlosgwyd ei chorff ym Mae Colwyn, 16 Mehefin 1983.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Ceinwen Rowlands yn Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein. Adalwyd 1 Ebrill 2016
- ↑ Letters and Diaries of Kathleen Ferrier, gol. Christopher Fifield (Boydell Press, 2003). ISBN 1 84383 012 4. P 242. Adalwyd Ebrill 2016
- ↑ Stephen Lloyd, Constant Lambert: Beyond the Rio Grande (Boydell & Brewer, 2014). ISBN 978-1-84383-898-2. t. 299. Adalwyd 1 Ebrill 2016
- ↑ "When all the stars came to the Majestic", Black Country Bugle, 19 Mehefin 2008[dolen farw]. Adalwyd 1 Ebrill 2016
- ↑ 5.0 5.1 National Library of Wales: Ceinwen Rowlands papers Archifwyd 2016-04-15 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 1 Ebrill 2016
- ↑ OCLC WorldCat: "To Our Lady of Sorrows" (193?). Accessed 1 Ebrill 2016
- ↑ Wenonah Milton Govea, Nineteenth- and Twentieth-century Harpists: A Bio-critical Sourcebook. Greenwood Publishing Group, 1995. ISBN 978-0-313-27866-2. P 81. Adalwyd 1 Ebrill 2016