Celf Tsieina
Manteisiodd celf draddodiadol Tsieina ar ddatblygiadau technolegol y wlad honno: gwneuthuro sidan a phorslen, a phapur ac argraffu. Ymhlith gweithiau addurnol yr Hen Tsieina mae llestri efydd a cherfwaith arenfaen (jâd) sy'n dyddio o 1000 CC. Datblygodd paentio a cheinlythrennu yn yr oes Han (206 CC–220 OC), a phorslen yn yr oes Tang (618–906). Ymgododd celf y tirluniwr yn yr oes Song (960–1279), a chynhyrchwyd porslen, lacrwaith a cloisonné coeth yn yr oes Ming (1368–1644). Yn yr oes Qing (1644–1912) datblygodd paentio Argraffiadol yn Tsieina.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e0/Imaginary_tour_through_Xiao-xiang.jpg/300px-Imaginary_tour_through_Xiao-xiang.jpg)
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia (Llundain: Penguin, 2004), t.317