Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Deddf gan Senedd Cymru
Deddf a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru bellach) a gafodd gydsyniad brenhinol ar 29 Ebrill 2015 yw Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Saesneg: Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015); daeth i rym ym mis Ebrill 2016.[1] Mae'n cynnwys saith prif nod:
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Senedd Cymru |
---|---|
Iaith | Saesneg, Cymraeg |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
- Cymru lewyrchus,
- Cymru gydnerth,
- Cymru iachach,
- Cymru sy'n fwy cyfartal,
- Cymru o gymunedau cydlynus,
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Chymru sy'n gyfrifol ar lefel byd-eang.
Er mwyn cyflawni hyn ceir hefyd 'yr egwyddor o ddatblygu cynaliadwy' sy'n cynnwys pum agwedd er mwyn cyflawni'r nodau hyn, sef:
- hirdymor,
- atal,
- integreiddio,
- cydweithio
- chynnwys.[2]
Gweithredu
golyguMae'r Ddeddf yn nodi mai cyfrifoldeb y sefydliadau canlynol yw ei gweithredu:
- Gweinidogion Cymru
- Awdurdodau lleol
- Byrddau iechyd lleol
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Awdurdodau parciau cenedlaethol
- Awdurdodau tân ac achub
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Y 5 rhan
golygu- Rhan 1: Cyflwyniad:trosolwg o'r Ddeddf
- Rhan 2: Gwella llesiant: mae'r rhan hon o'r Ddeddf yn nodi'r amcanion i weinidogion Cymru ac yn manylu ar ddyletswyddau'r cyrff cyhoeddus. Mae'n disgrifio sut y dylid mesur perfformiad tuag at gyflawni'r nodau ac mae'n darparu arweiniad.
- Rhan 3: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru: mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn nodi rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n cynnwys dyletswydd i adolygu a gwneud argymhellion ac yn sefydlu panel i gynghori'r Comisiynydd.
- Rhan 4: Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus: mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn gosod dyletswydd llesiant arnynt. Mae'n disgrifio paratoi ac adolygu cynlluniau llesiant lleol.
- Rhan 5: Darpariaethau Terfynol: mae Rhan 5 o'r Ddeddf yn diffinio cyrff cyhoeddus yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth, ac yn nodi rheoliadau a materion ategol eraill.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Well-being, Wales". The Gazette Official Public Record. 22 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 31 Mai 2017.
- ↑ "Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015" (PDF). 17 Mehefin 2015. Cyrchwyd 2021-02-16.