Agor y brif ddewislen

Un o Lynnoedd Mawr Affrica yw Llyn Victoria neu Victoria Nyanza, hefyd Ukerewe a Nalubaale. Mae rhannau o’r llyn yng ngwledydd Tansanïa, Wganda a Chenia.

Llyn Victoria
Getting out to fish at dusk.jpg
Math Llyn Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Victoria Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol African Great Lakes Edit this on Wikidata
Gwlad Tansanïa, Wganda, Cenia Edit this on Wikidata
Arwynebedd 68,100 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 1,133 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Tansanïa, Cenia, Wganda Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 1°S 33°E Edit this on Wikidata
Dalgylch 238,900 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd 337 cilometr Edit this on Wikidata
Llyn Victoria o Kampala, Wganda

Gydag arwynebedd o 68,800 cilmoder sgwar (26,560 mi²), Llyn Victoria yw’r llyn mwyaf ar gyfandir Affrica a’r llyn dwr croyw ail-fwyaf yn y byd o ran arwynebedd. Nid yw’n ddwfn iawn, tua 84 m (276 troedfedd) yn y man dyfnaf, a 40 m (131 troedfedd) ar gyfartaledd. O Lyn Victoria mae Nîl Wen, un o’r ddwy afon sy’n ffurfio Afon Nîl, yn tarddu.

Mae pysgota yn bwysig yn y llyn, ond mae wedi effeithio gan Ddraenogyn y Nîl, (Lates niloticus) nad yw’n byw yn y llyn yn naturiol. Rhoddwyd y pysgodyn yma yn y llyn am y tro cyntaf ym 1954 i geisio gwella’r pysgota, ynghyd a Tilapia’r Nîl (Oreochromis niloticus). Yn y 1980 cynyddodd nifer Draenogyn y Nil yn aruthrol, ac mae nifer fawr o rywogaethau sy’n frodorol i’r llyn wedi diflannu.