Cerddoriaeth yr offeren
Gosodiad cerddorol o rannau o wasanaeth Cristnogol yr offeren yw cerddoriaeth yr offeren, neu yn syml mewn cyd-destun cerddorol offeren. Cenir ffurfwasanaeth yr offeren ers oes foreuaf yr eglwys. Y blaensiant oedd y gerddoriaeth gynharaf a gyfansoddwyd i gyd-fynd â geiriau Lladin y litwrgi yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol cyfansoddwyd cerddoriaeth bolyffonig ar gyfer yr offeren. Proper yr Offeren ydy'r enw ar rannau'r ffurfwasanaeth sydd yn amrywio o dymor i dymor ac o ddydd i ddydd, ac Ordinari'r Offeren ydy'r testunau a ddefnyddir drwy gydol y flwyddyn. Yn aml byddai'r offeren yn cynnwys yr Offeren Isel a leferir neu lafargenir yn undonog, a'r Uchel Offeren a genir ar alaw.
Ers y Diwygiad Protestannaidd, arferir yr offeren hefyd gan enwadau eraill sydd yn tarddu o Eglwys y Gorllewin, yn bennaf y Lwtheriaid a'r Anglicaniaid. Cenir yr offeren yn iaith y werin gan yr eglwysi diwygiedig, a chyfansoddwyd cerddoriaeth eglwysig yn nulliau newydd yn ystod y Dadeni a'r oes faróc. Ers diwygiadau Ail Gyngor y Fatican, defnyddir ieithoedd ar wahân i Ladin yn offeren yr Eglwys Gatholig Rufeinig.
Defodau gwahanol a arferir gan Eglwys y Dwyrain, a chenir ffurfwasanaethau'r enwadau dwyreiniol gan amlaf drwy gyfrwng y blaengan, megis y siant Fysantaidd, y siant Armenaidd, y siant Ethiopaidd, y siant Goptaidd, a'r siant Syriaidd.
Datblygiad yr offeren yn yr Oesoedd Canol
golyguProper yr Offeren
golyguCafodd y salm-dôn Gregoraidd ei safoni yn ystod teyrnasiad y Pab Grigor I (590–604). Llafarganau neu siantiau monoffonig oedd y rhain, heb gyfeiliant na chytgord. Cyfansoddwyd melodïau i ganu'r blaensiant ar gyfer gwahanol rannau'r Proper, megis yr Yntred, y Greutialus neu'r Greal, yr Aleliwia, y Tract neu'r Anthem, yr Offrymgan, a'r Cymun. Datblygodd offerennau polyffonig yn y 10g a'r 11g, a ddefnyddiwyd alaw'r siant yn cantus firmus, sef sylfaen felodig a chyda rhannau lleisiol wedi eu hychwanegu ati. Cesglir sawl ffurf bolyffonig ar y Greutialus a'r Aleliwia yn y Magnus Liber Organi (tua 1175), a ysgrifennwyd ym Mharis gan y cyfansoddwr Léonin. Yng nghanol yr 13g, daeth yr arfer gyffredin o gyfansoddi offerennau polyffonig ar sail siantiau'r Proper i ben. Hyd yr oes fodern, cenir y Proper fel arfer yn y dull plaengan traddodiadol.
Ordinari'r Offeren
golyguRhennir elfennau Ordinari'r Offeren a osodant yn fynych ar gyfer côr, neu ar gyfer côr ac unawdydd, yn Kyrie, Gloria in excelsis Deo, Credo, Sanctus a Benedictus, ac Agnus Dei. Yr enghraifft gyntaf o osodiad cyfan o Ordinari'r Offeren oedd y "Messe de Tournai" (tua 1300). Yr un cyntaf i gyfansoddi cylch polyffonig cyfan ar gyfer yr Ordinari oedd y Ffrancwr Guillaume de Machaut yng nghanol y 14g.[1] Yn y 15g a'r 16g cyflwynwyd alawon seciwlar a chaneuon gwerin i gerddoriaeth yr offeren gan gyfansoddwyr megis Guillaume Dufay, Josquin Desprez, a Giovanni da Palestrina. Cyrhaeddodd yr offeren ei huchafbwynt yn niwedd yr 16g yn yr arddull gwrth-bwyntiol, corawl, digyfeiliant.
Cerddoriaeth faróc a chlasurol
golyguFfurf boblogaidd yn y cyfnodau baróc (1600–1750) a chlasurol (1750–1820) oedd yr offeren, ac un o brif nodweddion y traddodiad canu côr. Gweithiau hir ac ysgubol oedd nifer ohonynt, ac weithiau heb ansawdd defosiynol yr offerennau cynt.[1] Cawsant eu cyfansoddi ar gyfer seremonïau pwysig yn hytrach na gwasanaeth pob dydd yr eglwys. Un o gyfansoddiadau gwychaf yr oes faróc oedd yr Offeren yn B leiaf gan J. S. Bach, yn arddull y cantata. Cyfansoddwyd offerennau gan ŵyr mawr yr oes glasurol, gan gynnwys Joseph Haydn, Wolfgang Amadeus Mozart, a Ludwig van Beethoven. Parhaodd y ffurf yn y 19g dan ddylanwad Franz Schubert, Franz Liszt, Charles Gounod, ac Anton Bruckner, ac yn yr 20g gan Francis Poulenc, Igor Stravinsky, Leoš Janáček, a Ralph Vaughan Williams.
Offerennau dros y meirw
golyguMewn offerennau dros y meirw, caiff y Gloria a'r Credo eu hepgor ac ychwanegir "segwens", yr emyn "Dies Irae", gyda geiriau o gerdd Lladin ganoloesol ac wedi ei osod ar un o alawon enwocaf y siant. Ymhlith yr enghreifftiau o gerddoriaeth yr offeren dros y meirw mae cyfansoddiadau gan Johannes Ockeghem, Mozart, Giuseppe Verdi, Hector Berlioz, a Gabriel Fauré.