Cetyn
Mae'r cetyn neu pîb neu pibell yn declyn ar gyfer ysmygu tybaco. Mae'n cynnwys tiwb hir neu fyr (gorsyn neu goes y cetyn) yn wreiddiol gyda chynhwysydd siâp cwpan (pen) ar gyfer dal y tybaco sy'n mudlosgi. Bydd y smygwr yn sugno ar y cetyn er mwyn ysmygu.
Math | offeryn, smoking equipment |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguRoedd dyfeisiau tebyg i'r cetyn ar gael cyn i dybaco ddod i Ewrop o'r Byd Newydd. Defnyddiwyd gwahanol ffurf o ysmygu dail a deunydd o rhy fath er mwyn pleser neu ddefod. Roedd cetyn o fath i'w weld yn Iran gyfoes cyn o hanes modern. Roedd dyfeisiadau tebyg i'r cetyn cyfoes ar, yn aml ar ffurf tebot yn achos opiwm, yn cael eu defnyddio ers cyfnod hynafol iawn. Disgrifiodd Herodotus fel y byddai'r Scythiaid yn anadlu dail mwg llosgi yn 500 CC. Byddai'r Rhufeiniaid a'r Groegiaid hynafol yn benthyg llawer o'r "cynwysyddion" pibellog oddi ar eu cymdogion dwyreiniol a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach gan Germaniaid, Celtiaid a llwythau Nordig.
Byddai gwahanol bobloedd cynhenid America yn smocio pib seremonïol cyn dyfodiad yr Ewropeaid. Roedd pobl y Lakota yn defnyddio pibell seremonïol o'r enw čhaŋnúŋpa. Roedd diwylliannau eraill America hefyd yn smygu baco yn gymdeithasol.[1] Mae'r planhigyn tybaco yn gynhenid i Dde America ond ymledodd i Ogledd America yn hir cyn i'r Ewropeaid gyrraedd. Cyflwynwyd i planhigyn a'r arfer i Ewrop yn y 16.
Gan nad oedd tybaco wedi cael ei gyflwyno i Ewrop tan yr 16g,[2] yn achos o "cetyn", weithiau silindrog, y tu allan i'r Amerig fel arfer yn cael eu defnyddio i ysmygu hashish (sylwedd prin a drud oedd yn tarddu o ardaloedd tu hwnt i Ewrop); opiwm a hashish yn bennaf o'r Dwyrain Canol, Canolbarth Asia ac India, lle cafodd hashish ei gynhyrchu. Bathwyd y gair opiwm yn yr Eidaleg yn yr Oesoedd Canol, yn y 14g.
Roedd cetyn wedi eu gwneud o glai yn boblogaidd iawn wedi i dybaco gael ei gyflwyno i Ewrop o'r Amerig oddeutu 1600. Gwnaeth y cetynnau cyntaf o glai gwyn (pibglai). Yn ddiweddarach, roedd yna bibellau mewn porslen, meerschaum a choed brown (gwreiddyn y rhostir, Erica arborea).
Mae yna lawer o wahanol fodelau, wedi'u rhannu'n fathau a meintiau; eto, yn gyffredinol, mae israniad.
Cetyn Cyfoes
golyguMae'r rhain wedi deillio eu ffurf o'r modelau clasurol ac maent yn edrych ychydig yn fwy "sporty". Maent yn aml yn grwm ac mae ganddynt cyswllt ceg mwy agored. Y rhai mwyaf trawiadol yw'r 'llawrydd'; cetyn nad ydy wedi ei wneud gan beiriant neu felin naddu pren mewn ffatri ond y hytrach gan law crefftwr.
Cetyn yn Niwylliant Cymru
golyguEtymoleg ac iaith Lafar
golyguDae'r gair Cymraeg cetyn o'r Saesneg cat ac efallai cut gan feddwl amrywiaeth o ystyron yn ymwneud â bychan, derbyn neu annwyl. Ceir y dyfyniad cofnodedig cynharaf o'r 17g. (18g.) CM 42 [21], nid oedd gronun o dryssor gantho / ond Dwy geniog a chettyn tobacco.[3] Mae'r gair pib â cofnod hŷn o'i ddefnyddio ac yn fenthyciad o'r Lladin llafar, *pīpa, ac o bosibl hefyd Saeneg pipe.[3] Gweler hefyd cetyn yma.[1]
- Taith cetyn - taith fer, hamddenol yn cymryd hyd person i ysmygu ei getyn.
- Cetyn y Tylwyth Teg - ceir sôn am "cetyn y tylwyth teg" yn ochrau Rhuthun.[4]
Caneuon
golyguCeir cyfeiriad at 'cetyn yn ei geg' yn y gân werin, "Bachgen Bach o Dincer".[5] a genir gan sawl grŵp gwerin gan gynnwys Yr Hwntws.
Bachgen bach o dincer
yn crwydro'r hyd y wlad,
Cario'i dwls yn dacla,
Gwneud ei waith yn rhad,
Yn ei law roedd haearn
Ac ar ei gefn roedd bocs,
Pwt o getyn yn ei geg,
A than ei drwyn roedd locs
Hwiangerdd y "Bwgan Brain". Cyfeirir at 'cetyn' yn yr hwiangerdd Bwgan Brain.[6]
Dwy fraich ar led
Cetyn yn ei geg
'Trwyn hir a main
Dyma'r bwgan brain
Het ddu tad-cu
Siaced goch mam-gu
Trwyn hir a main
Dyma'r bwgan brain
Ceir hefyd band o Flaenau Ffestiniog o'r enw Twm Cetyn.
Oriel
golyguPipe types | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ ""Episode 11 Tobacco Pipes" by Robert Cassanello". stars.library.ucf.edu. Cyrchwyd 2016-01-11.
- ↑ Davey, Mike. "The European Tobacco Trade From the 15th to the 17th Centuries". University of Minnesota. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-11-06. Cyrchwyd 31 December 2017.
- ↑ 3.0 3.1 http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-27. Cyrchwyd 2019-01-03.
- ↑ https://www.omniglot.com/songs/bcc/bachgenbach.php
- ↑ http://welshnurseryrhymes.wales/Gartref?cerdd=48