Charles Herbert James
Roedd Charles Herbert James (16 Mehefin 1817 – 10 Hydref 1890) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a chynrychiolodd Merthyr Tudful fel Aelod Seneddol rhwng 1880 a 1888.
Charles Herbert James | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mehefin 1817 |
Bu farw | 3 Hydref 1890 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd James ym Merthyr ym 1817 yn drydydd mab i William James, ceidwad siop, a Margaret ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Wladol ym Merthyr ar 13 Gorffennaf 1817.[1]
Cafodd ei addysgu yn ysgol Taliesin Williams (mab Iolo Morgannwg) cyn symud i ysgol ym Mryste.[2] Bu'n astudio'r gyfraith fel efrydydd allanol ym Mhrifysgol Llundain gan raddio ym 1837.
Ym 1842 priododd a Sarah, Merch Thomas Thomas amaethwr a pherchennog cwmni sebon o Langatwg (cyfnither iddo) a bu iddynt 9 o blant saith mab a dwy ferch [3]
Gyrfa
golyguWedi gorffen ei addysg aeth James i weithio fe clerc erthyglau yng nghwmni cyfreithiol Perkins, Merthyr gan ddod yn bartner yn y cwmni ar ôl iddo gymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi ymddeoliad Mr Perkins daeth Charles James a'i gefnder Frank James yn gyd perchenogion y cwmni gan newid ei enw i C H & Frank James. Roedd cwmni James yn arbenigo yn y gyfraith yn ymwneud a'r diwydiant glo.Yn ogystal â bod yn gyfreithiwr i'r diwydiant glo roedd James hefyd yn berchennog ar byllau glo gan gynnwys rhai ar stadau'r Brithdir, Gelligaer a Llannerch, Pont y Pŵl.
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd James fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistref Merthyr Tudful yn etholiad cyffredinol 1880 gan lwyddo i gael ei ethol fel yr ail aelod gyda'i gyd ymgeisydd Rhyddfrydol Henry Richard yn cipio'r safle cyntaf. Cafodd Richard a James eu hail ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1885 a 1886. Fe ymddiswyddodd o'r senedd am resymau teuluol ym 1888.[4]
Roedd James yn cael ei ystyried yn aelod seneddol radical, yn ddadleuydd rhugl ac yn areithiwr huawdl, ond tueddai i'w doniau cael eu cuddio o dan gysgod ei gyd aelod.
Gyrfa gyhoeddus
golyguRoedd James yn gefnogwr brwd i bob ymgyrch i ledaenu addysg ym mysg y dosbarth gweithiol. Fe fu yn flaenllaw yn y mudiad i sicrhau bod ysgolion anenwadol (British Schools) yn cael eu hadeiladu yn y Gymru anghydffurfiol er mwyn sicrhau nad oedd orfodaeth i blant o gefndiroedd anghydffurfiol yn cael eu hanfantais trwy orfod mynychu ysgolion Eglwysig (National Schools). Ef oedd yn bennaf gyfrifol am sicrhau codi'r British School yn Abermorlais[5] . Bu yn gefn i ysgol waddoledig Gelligaer ac yn aelod o fwrdd ysgolion Merthyr. Bu yn Llywodraethwr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Llundain.
Roedd James yn aelod o enwad yr Undodiaid, gan wasanaethu fel athro ysgol Sul a chodwr canu ei gapel undodaidd lleol a gan wasanaethu am gyfnod fel llywydd Undeb yr Undodiaid.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Brynteg, Merthyr yn 73 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Y Cefn, Merthyr.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrestr Bedyddiadau Merthyr Tydfil 1817 t128 cofnod 1021 (Gwasanaethau Archifau Cymru)
- ↑ Cardiff Times 11 Hydref 1890 Death of Mr C H James, Merthyr [1] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Evening Express 11 Mawrth 1897 The Death of Mrs James Merthyr [2] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Llan 10 Hydref 1890 Marwolaeth Mr C H James Merthyr Tydfil [3] ]] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Aberdare Times 11 Hydref 1890 Death of Mr Chas Herbert James [4] adalwyd 27 Mehefin 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Fothergill |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Merthyr Tudful 1880 – 1888 |
Olynydd: David Alfred Thomas |