Charles McLaren, Barwn 1af Aberconwy
Roedd Charles Benjamin Bright McLaren, Barwn 1af Aberconwy PC QC YH (12 Mai, 1850 - 23 Ionawr, 1934), yn newyddiadurwr ac yn gyfreithiwr o'r Alban ac yn wleidydd Rhyddfrydol. Roedd, hefyd yn dirfeddiannwr ac yn ddiwydiannwr[1].
Charles McLaren, Barwn 1af Aberconwy | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 12 Mai 1850 ![]() Caeredin ![]() |
Bu farw | 23 Ionawr 1934 ![]() Llundain ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr ![]() |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | Duncan McLaren ![]() |
Mam | Priscilla Bright Mclaren ![]() |
Priod | Laura Elizabeth McLaren ![]() |
Plant | Henry Duncan McLaren, Florence Norman, Elsie Dorothea McLaren, Francis McLaren ![]() |
Cefndir Golygu
Ganwyd McLaren yng Nghaeredin, yn fab i'r gwleidydd Duncan McLaren a'i thrydedd wraig Priscila, merch i Jacob Bright a chwaer y gwladweinydd Rhyddfrydol John Bright.
Derbyniodd McLaren ei addysg ym Mhrifysgolion Heidelberg a Bonn, gan raddio o Brifysgol Caeredin gydag anrhydedd dosbarth gyntaf a gradd Meistr y Celfyddydau.
Teulu Golygu
Priododd Laura Elizabeth Pochin yn Westminster ar 6 Mawrth 1877; roedd hi'n ferch i'r cemegydd Henry Davis Pochin a chawsant bedwar o blant. Bu'r teulu'n gyfeillion i James McNeill Whistler, ac roeddeent yn berchen sawl un o'i weithiau.[2]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Who's Who in Wales, 1933; A G Reynolds & Co Ltd, Llundain; ail argraffiad 1933 tud 1
- ↑ "Charles Benjamin Bright McLaren, 1850-1934". University of Glasgow. Cyrchwyd 10 Ionawr 2010.