Henry Davis Pochin
Fferyllydd a diwydiannwr o Loegr oedd Henry Davis Pochin (25 Mai 1824 – 28 Hydref 1895). Dyfeisiodd broses i greu sebonau o wahanol liw, a phroses i ddefnyddio clai llestri i greu papur o ansawdd uchel.[1]
Henry Davis Pochin | |
---|---|
Ganwyd | 1824 Wigston |
Bu farw | 1895 |
Man preswyl | Bodnant |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, cemegydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Priod | Agnes Pochin |
Plant | Laura Elizabeth McLaren |
Bu'n berchennog pwll glo a gwaith haearn yn Nhredegar. Roedd yn ymddiddori mewn garddwriaeth a bu'n gyfrifol am ddatblygu gerddi'r Haulfre yn Llandudno a Gardd Bodnant yn Eglwysbach, bu hefyd yn ddylanwadol yn natblygiad Prestatyn fel cyrchfan wyliau.[2]
Gwasanaethodd fel maer Salford ac Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Stafford.[3]
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Pochin yn Wigston, ger Caerlŷr yn fab hynaf i William Pochin, amaethwr a'i ail wraig Elizabeth née Hurst[4]. Ychydig sy'n wybyddus am ei addysg gynnar, ond yn 13 mlwydd oed roedd yn ddisgybl yn ysgol berchnogol Caerlŷr. Yn 14 mlwydd oed, ym 1838, fe'i prentisiwyd yn y diwydiant cemegol a ffarmacolegol i ŵr o'r enw William Harris yn Northampton,[5] gan ddysgu'i grefft yno am gyfnod o bum mlynedd.[1]
Ym 1847 enillodd Tystysgrif Teilyngdod wedi sefyll arholiad materia medica y Gymdeithas Fferyllol.
Gyrfa
golyguAm gyfnod rhwng darfod ei brentisiaeth ac astudio am ei dystysgrif bu'n gweithio i gwmni fferyllol James Woolley ym Manceinion, wedi ennill ei gymwysterau ail ymunodd a'r cwmni ym 1848, a gyda benthyciad o £600 gan ei dad, daeth yn bartner mewn cwmni fferyllol gyda Woolley ac A P Halliday A. P. Halliday & Co., manufacturing chemists yn Salford ym 1849.
Erbyn 1858 roedd Halliday a Wooley wedi marw a daeth Pochin yn unig berchennog y busnes gan ei ehangu'n sylweddol ac agor canghennau ym Mryste (1863) a Newcastle upon Tyne (1865). Adeiladwyd llwyddiant y cwmni ar allu dyfeisgar Pochin; cofrestrodd patent ar gyfer gloywi rosin, sylwedd brown a ddefnyddid i wneud sebon, drwy basio stêm drwyddo a'i distyllu fel ei bod yn troi'n wŷn a gan hynny'n creu'r gallu i wneud sebon gwyn, a thrwy ddefnyddio llifyn, sebonau o bob math o liwiau gwahanol. Roedd y broses o greu cacen alwm yn un a ddefnyddiodd llawer o glai llestri, a phrynodd Pochin nifer o fwyngloddiau clai llestri yng Nghernyw at y diben hwn[6].
Buddsodd Pochin yn helaeth mewn stoc nifer o gwmnïau, yn bennaf yn y diwydiannau peirianneg, haearn a dur gan ddod yn gyfarwyddwr ddau ar hugain o gwmnïau, gan gynnwys Cwmni Glo a Haearn Staveley, John Brown & Co. Ltd, Bolckow, Vaughan & Co. Ltd, a Chwmni Haearn a Glo Tredegar. Ar 8 Tachwedd 1884 bu tanchwa ym mhwll Tredegar, lle collodd 14 o lowyr eu bywydau[7]. Ar y cyd a Syr Edward Watkin, bu'n gyfrifol am achub Cwmni Rheilffordd y Metropolitan a oedd mewn trafferthion ariannol, bu hefyd yn gyfarwyddwr Cwmni Rheilffordd Manceinion a Sheffield, a Rheilffordd Swydd Lincoln.
Gyrfa Wleidyddol
golyguEtholwyd Pochin i Gyngor Dinas Salford ym 1853 cafodd ei ddyrchafu i fainc henaduriaid y cyngor a gwasanaethodd fel maer y ddinas am ddau dymor olynol rhwng 1866 a 1868[8]. Yn Etholiad Cyffredinol 1868 fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Swydd Stafford, ond cafodd ei ddiarddel o'r sedd ar ddeiseb gan fod ei asiant a'i gefnogwyr wedi bygwth etholwyr yn ystod yr etholiad[9]. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1877.
Gogledd Cymru
golyguYn y 1870au prynodd Pochain tir yn ardal Prestatyn gan ddatblygu cyflenwad nwy, dŵr a charthffosiaeth y dref, gwellodd ansawdd y ffyrdd a datblygodd ardal glan y môr er mwyn gwneud y dref yn gyrchfan gwyliau ac awyr iach[10][11].
Rhwng 1871 a 1876 bu Pochin yn preswylio yn Haulfre, Llandudno, tŷ ar ochr deheuol y Gogarth, lle fu'n dilyn ei angerdd am arddio trwy greu gardd helaeth a theras serth; mae gerddi Haulfre bellach yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac maent ar agor at ddefnydd y cyhoedd[12].
Ym 1874 prynodd ystâd Bodnod yn Nyffryn Conwy, gan ei ail enwi yn Bodnant, dechreuodd byw ym mhlasty'r ystâd ym 1876 gan ei addasu'n helaeth a gan ddechrau datblygu'r gerddi enwog yno gyda chymorth y garddwr a'r ymgynghorydd tirwedd Edward Milner[13].
Bywyd personol
golyguYm 1852 priododd Pochin, Agnes, merch George Gretton Heap, Timperley, Swydd Gaer, bu iddynt 6 o blant. Roedd Agnes Pochin yn swffragét amlwg ac yn awdur un o'r llyfrau cyntaf i ddadlau dros roi'r bleidlais i ferched The Right of Women to Exercise the Elective Franchise (1855).
Bu farw Pochin ym Modnant yn 71 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd mewn claddgell ar yr ystâd. Roedd dau o'i chwe phlentyn yn dal yn fyw ar adeg ei farwolaeth, ei ferch Laura gwraig Barwn cyntaf Aberconwy a Percival Gerard ei fab; gan fod Percival wedi dwyn gwarth ar y teulu trwy gael ei erlyn am gam drin plentyn[14], torrwyd ef allan o ewyllys ei dad ac aeth Bodnant yn eiddo i Laura.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Trevor Boyns, "Pochin, Henry Davis (1824–1895)", Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press, 2004)
- ↑ CPAT Regional Historic Environment Record Prestatyn[dolen farw]
- ↑ Grace's Guide to British Industrial History Henry Davis Pochin; adalwyd 05 Gorffennaf 2016
- ↑ Wigston Historical Society Programme of Meetings August 2009 - February 2010 tud 5 Wigston Who's Who No 16 HENRY DAVIS POCHIN JP[dolen farw] adalwyd 7 Gorffennaf 2016
- ↑ Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1841Gold Street, Northampton, cyf HO107/814 llyfr 2 ffolio 35 tud 17
- ↑ Henry Davis Pochin yn rhif 23 o gylchgrawn The China Clay History Society
- ↑ Durham Miners Museum - Disasters adalwyd 07 Gorffennaf 2016
- ↑ Salford City Council Previous Mayors adalwyd 7 Gorffennaf 2016
- ↑ "GENERAL - The Aberystwyth Times Cardiganshire Chronicle and Merionethshire News". Philip Williams. 1869-05-15. Cyrchwyd 2016-07-07.
- ↑ "DEATH OF MR POCHIN - Rhyl Journal". E. Pearce. 1895-11-02. Cyrchwyd 2016-07-07.
- ↑ "PRESTATYN - Rhyl Record and Advertiser". Amos Brothers ; Record and Advertiser Co. 1891-11-28. Cyrchwyd 2016-07-07.
- ↑ History Points Haulfre Gardens, Llandudno
- ↑ National Trust Bodnant
- ↑ "ILL TREATING A PAGE - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1891-01-31. Cyrchwyd 2016-07-07.