James McNeill Whistler

arlunydd Americanaidd

Arlunydd ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd James Abbott McNeill Whistler (11 Gorffennaf 183417 Gorffennaf 1903) a fu'n weithgar yn Lloegr o 1859 hyd at ddiwedd ei oes.

James McNeill Whistler
GanwydJames Abbot McNeill Whistler Edit this on Wikidata
10 Gorffennaf 1834 Edit this on Wikidata
Lowell Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1903 Edit this on Wikidata
Chelsea, Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Ymerodrol y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, ysgythrwr, darlunydd, llenor, lithograffydd, gwneuthurwr printiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNocturne: Blue and Gold – Old Battersea Bridge, Nocturne in Black and Gold – The Falling Rocket, Whistler's Mother, The Peacock Room Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), portread, architectural painting, peintio hanesyddol, celf tirlun, noethlun, celf y môr Edit this on Wikidata
MudiadSymbolaeth (celf), Esthetiaeth Edit this on Wikidata
TadGeorge Washington Whistler Edit this on Wikidata
MamAnna McNeill Whistler Edit this on Wikidata
PriodBeatrix Whistler Edit this on Wikidata
PerthnasauRose Fuller Whistler Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur Edit this on Wikidata
llofnod

Treuliodd ei fagwraeth yn ei ardal enedigol Lloegr Newydd, yn Rwsia lle'r oedd ei dad yn gweithio fel peiriannydd sifil, a chyda'i deulu yn Lloegr. Ymunodd â Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau am gyfnod ond nid oedd ei gymeriad yn addas at fywyd milwr. Bu Whistler yn ymddiddori mewn arlunio ers ei blentyndod, ac yn 1855 i Baris i ddysgu paentio. Symudodd Whistler i Lundain yn 1859 ac yno daeth yn amlwg fel dyn arabus a ffasiynol. Yn y 1860au symudodd Whistler rhwng Lloegr a Ffrainc, gan weithio yn y ddwy wlad. Ei beintiad cyntaf i dynnu sylw oedd Symphony in White, No. 1: The White Girl (1861–2), a gafodd ei arddangos yn y Salon des Refusés ym Mharis yn 1863. Dyn cwerylgar oedd Whistler yn aml, a bu sawl ffrae rhyngddo â'r beirniaid celf, gan gynnwys ei achos llys enwog yn erbyn John Ruskin yn 1877.

Erbyn diwedd ei yrfa, clodforwyd Whistler am ei ddawn dylunio, ei ddefnydd coeth o liw, a'i allu technegol o ran peintio ac ysgythru, yn ogystal â'i lithograffau, lluniau dyfrlliw, a phastel-luniau. Ymhlith ei beintiadau enwocaf mae ei bortread o'i fam Arrangement in Grey and Black No. 1 (1871) a'i nosluniau o Lundain. Arddangosir ei waith mewn orielau yn Llundain, Paris, Pittsburgh, Washington, D.C., Chicago, a Dinas Efrog Newydd. Cedwir nifer o'i beintiadau yn Oriel Gelf Freer yn Washington, ac yno hefyd mae'r Peacock Room, ystafell a ddyluniwyd gan Whistler mewn arddull sy'n rhagweld art nouveau.

Yn ogystal â'i gelf, ysgrifennodd Whistler sawl darlith feirniadol, gwirebau, ac ysgrifau ar bynciau amrywiol. Nodweddir ei lenyddiaeth gan ffraethineb egr. Cafodd ei ddarlith The Ten O'Clock (1888) ddylanwad pwysig ar ddamcaniaeth celf, ac roedd Whistler yn gyfrifol yn bennaf am gyflwyno celf fodern o Ffrainc, yn enwedig Argraffiadaeth, i Loegr. Ei lyfr enwocaf yw The Gentle Art of Making Enemies (1890), casgliad o adolygiadau gan ei feirniaid ochr yn ochr ag atebion pigog gan Whistler.

Bywgraffiad

golygu

Bywyd cynnar a theulu

golygu
 
Daguerroteip o'r bachgen James Whistler (1847–9).

Ganwyd James Abbott Whistler yn Lowell, Massachusetts, i deulu o dras Wyddelig.[1] Ychwanegodd McNeill at ei enw yn ddiweddarach.[2] Peiriannydd sifil ac uwchgapten ym Myddin yr Unol Daleithiau oedd ei dad, George Whistler (1800–49), a symudodd y teulu yn aml wrth iddo weithio ar adeiladu rheilffyrdd. Cafodd George dri phlentyn gyda'i wraig gyntaf, Mary R. Swift (bu farw 1827), George William (1822–69), Deborah Delano (1825–1908), a Joseph Swift (1824–40), a phum mab gyda'i ail wraig Anna Matilda McNeill, James Abbott (1834–1903), William McNeill (1836–1900), Kirk Boott (1838-–42), Charles Donald (1841–43), a John Bouttatz (1845–46).[3] Symudant i Stonington, Connecticut, yn 1837, ac yn 1843 teithiodd James gyda'i fam, ei frodyr a'i chwaer i St Petersburg, Rwsia, lle'r oedd ei dad yn arolygu gwaith rheilffordd o'r ddinas honno i Foscfa. Bu farw George Whistler o fethiant y galon o ganlyniad i'r geri marwol yn 1849, a dychwelodd ei deulu i Connecticut.[4]

Aeth James i Academi Filwrol yr Unol Daleithiau yn West Point, Efrog Newydd, yn 1851. Er iddo ymddisgleirio mewn gwersi arlunio, nid oedd yn gadét ufudd nac yn astud mewn unrhyw bwnc arall, a chafodd ei ddanfon i ffwrdd o'r Academi ar ôl ei drydedd flwyddyn o ganlyniad i 218 o farciau anhaeddiant (demerits) yn ei erbyn. Blynyddoedd yn hwyrach, honnai Whistler iddo gael ei yrru allan o'r Fyddin am iddo fethu ddysgu digon am gemeg, a dweud wrth arholwr taw nwy yw silicon.[5] Gyda chymorth yr Ysgrifennydd Rhyfel Jefferson Davis, ymunodd ag Arolwg Arfordirol a Geodesig yr Unol Daleithiau ac yno fe ddysgodd sut i lunio mapiau ac ysgythru, ond roedd yn aml yn absennol o'i waith. Ymddiswyddodd Whistler wedi tri mis.[6]

Ei gyfnod ym Mharis

golygu

Penderfynodd Whistler gychwyn ar yrfa celfyddydol, a chynigodd ei hanner brawd George, a oedd yn gweithio'n beiriannydd yn Baltimore, i ddarparu lwfans o $350 y flwyddyn iddo ac i dalu am fordaith i Ffrainc i ddysgu arlunio.[7] Symudodd James i Baris yn 1855, ac yno fe ymwelodd ag arddangosfa o waith Jean-Auguste-Dominique Ingres ac Eugène Delacroix yn yr Exposition Universelle ac ymunodd â stiwdio'r arlunydd Swisaidd Charles Gleyre. Er iddo gofleidio diwylliant bohemaidd y ddinas, nid oedd Whistler yn hoff o'r chwarae swnllyd a chwffio a ddigwyddai ymhlith ei gyd-ddisgyblion yn y stiwdio, a phenderfynodd y byddai'n well iddo dreulio'i amser yn tynnu lluniau o bobl a golygfeydd strydoedd, caffis, parciau, a neuaddau dawns Paris. Daeth yn gymeriad adnabyddus yn y Quartier latin am chwarae castiau a'i ymddygiad ecsentrig. Pan nad oedd yn medru fforddio papur braslunio, arferai rhwygo tudalennau gweili allan o lyfrau'r stondinau ar hyd Afon Seine.[8]

Magodd sawl cyfeillgarwch â myfyrwyr celf eraill, Ffrancod a Saeson yn bennaf, a threuliodd dwy flynedd mewn perthynas gyda model o'r enw Fumette. Aeth ar daith drwy ogledd Ffrainc, Lwcsembwrg, a'r Rheindir gan greu gyfres o 12 o ysgythriadau copr o'r enw The French Set.[9] Yn 1858, bu'n yn cwrdd â dau arlunydd ifanc arall, Henri Fantin-Latour ac Alphonse Legros, a ffurfiasant grŵp o'r enw Cymdeithas y Tri. Trwy'r Gymdeithas daeth Whistler i adnabod y peintiwr Gustave Courbet, ac ymunodd â charfan o arlunwyr dan ei hyfforddiant. Mewn nifer o weithiau cynnar Whistler gwelir dylanwad Courbet ac arlunwyr realaidd Ffrengig eraill megis François Bonvin. Yn y cyfnod hwn, magodd Whistler ei werthfawrogiad o waith Diego Velázquez a chelf Asia, yn enwedig printiau Japaneaidd. Daeth Whistler i ddysgu am waith y llenorion Charles Baudelaire a Théophile Gautier, a chawsant effaith hollbwysig ar ddamcaniaethau Whistler am gelf yn hwyrach yn ei fywyd.[10]

Ei gyfnod cynnar yn Llundain

golygu

Er i un o beintiadau cynnar Whistler, At the Piano, dderbyn clod gan Courbet a'i gyfeillion, cafodd ei wrthod gan Salon Paris yn 1859. Symudodd Whistler i Lundain yn nhymor y gwanwyn 1860, i fyw gyda'i hanner chwaer Deborah a'i theulu yn ardal Knightsbridge, a danfonodd y llun i'r Academi Frenhinol. Cafodd y portread hwnnw o Deborah a'i merch ei arddangos yn oriel yr Academi yn Sgwâr Trafalgar yn 1860.[10] Ymsefydlodd yn Llundain a bu'r ddinas yn gartref iddo am weddill ei oes, ond treuliodd y 1860au yn ymweld yn aml â Ffrainc, gan weithio yn y ddwy wlad.

Cafodd Whistler ei swyno gan Afon Tafwys a bu'n crwydro'n aml ar hyd lannau'r afon, yn enwedig ardal y dociau a Wapping. Gwerthwyd ei ysgythriadau o'r afon mewn siop brintiau yn Stryd Bond. Symudodd allan o dŷ Deborah, gan rentu fflat stiwdio yn ardal artistig Stryd Newman yn ogystal ag ystafell yn Wapping. Bu'n gwahodd nifer o'i hen gyfeillion o Baris i Lundain, ac yn cymdeithasu gydag arlunwyr lleol a hefyd y morwyr y byddai'n portreadu yn ei ysgythriadau o lannau'r Tafwys. Cafodd berthynas ag un o'i fodelau, Jo Hiffernan, a barodd am ryw ddeng mlynedd.[11] Daeth Whistler yn aelod amlwg o gylchoedd ffasiynol Llundain ac enillodd enw iddo'i hun am fod yn ddandi ffraeth ei dafod a chrand ei wisg yn ogystal ag ysgythrwr tra medrus.

Y daith i Ffrainc a'r Salon des Refusés

golygu

Erbyn haf 1861, roedd gan Whistler digon o arian o'i werthiannau i dalu am daith i Ffrainc am 15 mis gyda Jo. Crwydrasant drwy Lydaw, ym mha le peintiodd Whistler morluniau megis The Coast of Brittany (1861), ac i Baris i ymweld â Courbet. Yn y gaeaf, peintiodd bortread o Jo o'r enw Symphony in White No. 1 (1861–2), ac o ganlyniad i'r paent plwm gwyn bu Whistler yn dioddef o wenwyn plwm, neu "golig yr arlunydd". Aeth gyda Jo i dde Ffrainc i geisio'i wella, ac yn Biarritz yng Ngwlad y Basg fe beintiodd Blue and Silver (1862), llun o'r tonnau yn taro'r creigiau o dan wybren gymylog.[12]

Ei beintiad cyntaf i dynnu sylw mawr oedd Symphony in White, a gafodd ei arddangos yn y Salon des Refusés ym Mharis yn 1863.

Anterth ei yrfa

golygu

Yr achos yn erbyn Ruskin

golygu

"I have seen, and heard, much of cockney impudence before now, but never expected to hear a coxcomb ask two hundred guineas for flinging a pot of paint in the public's face."

John Ruskin yn ei gyfrol Fors Clavigera (1877)

Dyn cwerylgar oedd Whistler yn aml, a bu sawl ffrae rhyngddo â'r beirniaid celf. Yn 1877 aeth â John Ruskin i'r llys gan ddwyn achos o enllib yn ei erbyn. Ysgrifennodd Ruskin bod Whistler yn "gofyn am ddeucan gini am luchio potyn o baent yn wyneb y cyhoedd" gyda'i beintiad Nocturne in Black and Gold – The Falling Rocket. Enillodd Whistler yr achos, a derbyniodd un ffyrling yn unig yn ddyfarndal.

Diwedd ei oes

golygu

Aeth Whistler yn fethdalwr o ganlyniad i gostau'r achos llys yn erbyn Ruskin. Yn 1898 fe lwyddodd i ailsefydlu'i hunan pan werthodd nifer o'i ysgythriadau o Fenis. Trigai Whistler yn ardal Chelsea, ac yno fe gynhaliodd salon boblogaidd yng nghyfnod diweddaraf ei oes.

Ei gelf

golygu

Roedd Whistler yn arlunydd yn nhraddodiad "celfyddyd er mwyn celfyddyd": dadleuodd taw dyletswydd yr arlunydd oedd i ddewis elfennau o'r byd a'u cydosod gan greu gwaith creadigol, megis cyfansoddiad cerddorol. Whistler oedd un o brif arlunwyr, os nid arloeswr, y mudiad Tonyddol, sy'n disgrifio'r arlliwiau niwlog sydd yn flaenllaw yn ei dirluniau. Nodweddir ei bortreadau llawn hyd gan arddulliad tebyg. Cafodd ei ddylanwadu'n gryf gan yr Argraffiadwyr, ac mae ambell waith ganddo yn dangos nodweddion cynnar o gelf haniaethol. Dadleuodd Whistler taw cyfuniad a threfn golau, ffurf, a lliw oedd yn bwysig yn ei gelf, nid cynnwys neu bwnc y llun. Er mwyn dadbwysleisio eu cynnwys, rhoddai Whistler enwau haniaethol i'w beintiadau, er enghraifft Arrangement in Gray and Black No. 1 ar y portread o'i fam.

Paentiadau

golygu

Ysgythriadau, lithograffau, a phrintiau eraill

golygu

Lluniau dyfrlliw a phastel

golygu

Dylunio mewnol

golygu

Ei feirniadaeth a'i ysgrifau

golygu

The Ten O'Clock

golygu

Gwaith ysgrifenedig mwyaf dylanwadol Whistler, a dogfen bwysig yn hanes celf, oedd ei ysgrif The Ten O'Clock a gyhoeddwyd yn 1888. Traddodai'r ddarlith yn gyntaf yn 1885 yn Neuadd y Tywysog, Piccadilly. Gwaith o ddifrif ydoedd, heb ffraethebion na sarhadau, a oedd yn cyfuno holl syniadau'r awdur ynglŷn â phwrpas a swyddogaeth celf. Gellir ei ystyried yn faniffesto sy'n amlinellu'r gredo fachog, "celfyddyd er mwyn celfyddyd". Ynddo wnaeth Whistler hawlio natur ddethol yr arlunydd, a'i arwahanu oddi ar y cyhoedd a'r beirniad. Datganodd bod yr arlunydd yn atebol i'w hunan yn unig, a dim ond arlunwyr eraill sydd â'r hawl i feirniadu celf. Dadleuodd hefyd bod celf yn hollol annibynnol ar natur ac hanes, a dyletswydd yr arlunydd yw i greu celfyddydwaith ar dermau'i hun ac nid o reidrwydd i lunio dynwarediad cywir o'r byd. Ceisiodd cysuro'i gynulleidfa gan gynghori iddynt gymryd celf yn ganiataol, ac nid i bryderu am neges na phwysigrwydd celf i gymdeithas.[13]

Mae syniadau Whistler yn adlewyrchu'r newidiadau cymdeithasol syfrdanol a fu ar doriad modernedd yn ail hanner y 19g. Bellach, nid crefftwr angenrheidiol oedd yr arlunydd a noddid gan y frenhiniaeth a'r eglwys. Yn hytrach, dyn ar gyrion cymdeithas ydoedd a pheth y gellir ei hepgor oedd ei ddawn artistig. Honnwyd trefn o benderfyniaeth yn y byd gan athrawiaethau gwleidyddol a gwyddonol newydd, megis Marcsiaeth a Darwiniaeth, gan fygwth hunaniaeth a natur unigryw y crefftwr creadigol. Bu arlunwyr hefyd yn ofni cydymffurfio o ganlyniad i fasgynhyrchu, ac effeithiau'r gyfundrefn gyfalafol ar ddiwylliant. Datganiad balch oedd darlith Whistler a oedd yn honni taw'r arlunydd sydd yn gwrthod cymdeithas, ac nid fel arall.[13]

Fel y disgwyl, derbyniodd y ddarlith wrthwynebiad gan nifer o awduron, gan gynnwys un o edmygwyr Whistler, Oscar Wilde. Er yr ymateb chwyrn gan y beirniaid, dylanwadodd The Ten O'Clock yn gryf ar fyd celf a daeth i sylw rhan fawr o'r cyhoedd. Cafodd Whistler ei wahodd i draddodi'r ddarlith ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chan grwpiau megis Clwb Myfyrwyr yr Academi Frenhinol.[14]

The Gentle Art of Making Enemies

golygu

Yn niwedd y 1880au, daeth newyddiadurwr ifanc o'r Unol Daleithiau o'r enw Sheridan Ford i Whistler a gofyn caniatâd ganddo i gasglu adolygiadau anffafriol o waith Whistler, ynghyd ag ymatebion yr arlunydd, a'u cyhoeddi ar ffurf llyfr. Cytunodd Whistler, ond yn ddiweddarach fe benderfynodd i beidio â gadael Ford i dderbyn yr holl elw o werthiannau'r llyfr. Anfonodd £10 i Ford yn dâl am ei waith hyd hynny, a datganodd ei fod wedi newid ei feddwl ynglŷn â'r fenter. Aeth Ford ati i argraffu'r llyfr, heb ganiatâd Whistler, yn Antwerp. Bygythiodd Whistler y byddai'n dwyn achos llys yn ei erbyn, ac o'r diwedd ildiodd Ford. Yn 1890, cyhoeddodd Whistler ei olygiad o'r llyfr gyda'r un teitl a ddefnyddiodd Ford, The Gentle Art of Making Enemies. Er yr helynt a fu ynghylch cyhoeddi The Gentle Art of Making Enemies, nid oedd y llyfr yn llwyddiannus ar y pryd.[15] Pan gyhoeddwyd ail argraffiad yn 1897, fe'i canmolwyd gan Max Beerbohm mewn adolygiad yn y Saturday Review, ac wedi marwolaeth Whistler ysgrifennodd Beerbohm gwerthfawrogiad ohono yn yr ysgrif "Whistler's Writing" gan ddyrchafu ei waith ysgrifenedig yr un mor celfydd a chywrain â'i arluniaeth.[16]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tom Prideaux, The World of Whistler, 1834-1903 (Efrog Newydd: Time-Life Books, 1970), t. 13.
  2. Prideaux, World of Whistler (1970), t. 14.
  3. (Saesneg) "George Washington Whistler, 1800-1849", The Correspondence of James McNeill Whistler (Prifysgol Glasgow). Adalwyd ar 19 Ionawr 2019.
  4. Prideaux, World of Whistler (1970), t. 18.
  5. Prideaux, World of Whistler (1970), tt. 20–21.
  6. Prideaux, World of Whistler (1970), tt. 21–22.
  7. Prideaux, World of Whistler (1970), t. 22.
  8. Prideaux, World of Whistler (1970), tt. 22–3.
  9. Prideaux, World of Whistler (1970), t. 24.
  10. 10.0 10.1 Prideaux, World of Whistler (1970), t. 25.
  11. Prideaux, World of Whistler (1970), t. 37–40.
  12. Prideaux, World of Whistler (1970), t. 42–3.
  13. 13.0 13.1 Prideaux, World of Whistler (1970), tt. 167–8.
  14. Prideaux, World of Whistler (1970), tt. 168–9.
  15. Prideaux, World of Whistler (1970), t. 170.
  16. J. G. Riewald, Max Beerbohm's Mischievous Wit: A Literary Entertainment (Assen: Van Gorcum, 2000), t.105.

Darllen pellach

golygu
  • A. M. Young et al., The Paintings of James McNeill Whistler, 2 gyfrol (1980)
  • R. Spencer (gol.), Whistler: A Retrospective (1989)
  • R. Dorment a M. F. MacDonald, James McNeill Whistler (1995)