Basaleg

Pentref hanesyddol ar gyrion gorllewinol Casnewydd

Pentref hanesyddol sydd erbyn heddiw yn ardal ddinesig ar gyrion gorllewinol Casnewydd, de-ddwyrain Cymru, yw Basaleg (Saesneg: Bassaleg). Lleolir ar ffordd yr A468. Mae'n adnabyddus fel lleoliad llys Ifor Hael (Ifor ap Llywelyn), noddwr Dafydd ap Gwilym yn y 14g.

Basaleg
Mathdosbarth, maestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.578°N 3.051°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cysylltir Basaleg â Santes Gwladys yn ogystal, un o ferched Brychan, brenin teyrnas Brycheiniog.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Ruth Jones (Llafur).[2]

Tarddiad yr enw

golygu

Ar un adeg credid taw ffurf ar Maesaleg oedd yr enw, ond dangosodd Syr Ifor Williams taw gair sy'n deillio o'r Lladin basilica (eglwys) yw baseleg, gyda'r terfyniad -a wedi affeithio -i- yn -e- dros ddwy sillaf. Yn ôl Gwynedd O. Pierce, Baseleg yw'r ffurf "gywirach" ond dywed: "Amrywiad ar hwn yw Basaleg, a chystal peth ei gadw, pe bai ond er mwyn osgoi'r ynganiad erchyll (fel pe bai'n ddau air Saesneg) a roir i'r ffurf Baseleg gan y di-Gymraeg)." Mewn rhai plwyfi y mae'r eglwys wedi ei chysegru i sant arbennig am fod pobl wedi credu taw enw'r sant hwnnw a goffeir yn enw'r lle y saif yr eglwys ynddo. Am y rheswm hwn cysegrwyd yr eglwys ym Masaleg i'r Sant Basil ers dechrau'r 12g o leiaf, ond nid am fod ynddo unrhyw gysylltiad â neb o'r enw Basil, boed sant neu beidio.[3]

Llys Ifor Hael

golygu

Trigai Ifor Hael ym mhlas Gwernyclepa ger Basaleg, tua milltir i'r de o'r pentref presennol (gorweddai ym Morgannwg yn y cyfnod hwnnw). Cadwai croeso cynnes ar ei aelwyd i'r beirdd. Ceir sawl cyfeiriad at lys Ifor Hael yng nghanu Dafydd ap Gwilym. Credir i'r bardd ganu iddo yn y cyfnod 1345-80. Mae un o'i gerddi yn gywydd mawl i lys Ifor ym Masaleg sy'n cynnwys y llinellau:

Mawr anrhydedd a'm deddyw;
Mi a gaf, o byddaf fyw,
Hely â chŵn, nid haelach iôr,
Ac yfed gydag Ifor,
A saethu rhygeirw sythynt,
A bwrw gweilch i wybr a gwynt,
A cherddau tafodau teg,
A solas ym Masaleg.[4]

Ymwelodd Evan Evans (Ieuan Fardd) â safle'r llys, yng nghwmni Iolo Morgannwg, a chyfansoddodd gyfres englynion 'I Lys Ifor Hael' sydd ymhlith y mwyaf adnabyddus o gerddi'r 18g.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen, Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t.12.
  4. Gwaith Dafydd ap Gwilym, gol. Thomas Parry, cerdd 8.31-38.