Frederick Courtenay Morgan
Roedd y Cyrnol Frederick Courtenay Morgan (24 Mai 1834 - 9 Ionawr 1909) yn swyddog milwrol ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaethau Sir Fynwy a De Sir Fynwy[1]
Frederick Courtenay Morgan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mai 1834 ![]() |
Bu farw | 9 Ionawr 1909 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | Charles Morgan Robinson Morgan ![]() |
Mam | Rosamund Mundy ![]() |
Priod | Charlotte Williamson ![]() |
Plant | Courtenay Morgan, Is Iarll 1af Tredegar, Frederic Morgan, 5ed Barwn Tredegar, Blanche Morgan, Violet Morgan ![]() |
Bywyd personol
golyguGanwyd Morgan yn Brighton ym 1834 yn drydydd fab i Syr Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar, 3ydd Barwnig a Rosamund Mundy ei wraig. Roedd yn frawd i Charles Rodney Morgan, Godfrey Charles Morgan.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Winchester
Priododd a Charlotte Anne Wilkinson ar 3 Mai 1858 yn Eglwys St George Hanover Square, Llundain, bu iddynt dau fab a dwy ferch:
- Anrh. Blanche Frances Morgan (10 Chwefror, 1859 - 31 Rhagfyr, 1948
- Anrh. Violet Morgan (23 Medi, 1860 - 22 Rhagfyr, 1943)
- Courtenay Charles Evan Morgan, Is-iarll 1af Tredegar (10 Ebrill, 1867 - 3 Mai, 1934)
- Frederic George Morgan, 5ed Barwn Tredegar (22 Tachwedd, 1873 - 21 Awst, 1954)
Gyrfa
golyguCafodd Morgan gomisiwn yn y Rifle Brigade ym 1853 a bu'n ymladd yn Rhyfel y Crimea ym mrwydrau Alma, Sebastopol, Inkerman a Balaclava. Cafodd ei ddyrchafu'n Is-gapten ym 1854 a Chapten ym 1855. Gadawodd y Fyddin reolaidd ym 1860 gan ymuno ag Ail Fataliwn Reiffl Gwirfoddolwyr Sir Fynwy fel Is-Gyrnol. Ymddiswyddodd ei gomisiwn ym 1873. Yn ddiweddarach bu yn Gyrnol ar Ail Fataliwn Gwirfoddolwyr Cyffinwyr De Cymru.
Gyrfa wleidyddol
golyguEtholwyd Morgan yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Fynwy yn etholiad cyffredinol 1874 a daliodd y sedd hyd ei ddiddymu yn yr ad-drefnu a daeth yn sgil Deddf Ailddosbarthu Seddi 1885. Yn etholiad cyffredinol 1885, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Sir Fynwy gan dal y sedd hyd 1906.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref Castell Rhiwperra Llanfihangel-y-fedw yn 75 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Masaleg
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Charles Octavius Swinnerton Morgan |
Aelod Seneddol Sir Fynwy 1874 – 1885 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol De Sir Fynwy 1885 – 1906 |
Olynydd: Ivor Herbert |