Chernihiv
Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Chernihiv yw Chernihiv (Wcreineg: Чернігів) a leolir yng ngogledd canolbarth y wlad, nid nepell o'r ffin â Ffederasiwn Rwsia. Saif ar Afon Desna, i ogledd-ddwyrain y brifddinas Kyiv.
Trem ar warchodfa Chernihiv Hynafol: (o'r chwith i'r dde) Eglwys Gadeiriol y Gweddnewidiad, Eglwys Gadeiriol y Saint Boris a Hlib, a Cholegiwm Chernihiv. | |
Math | dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin |
---|---|
Poblogaeth | 286,899 |
Pennaeth llywodraeth | Vladyslav Atroshenko |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Chernihiv Raion |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 79 km² |
Uwch y môr | 136 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 51.4939°N 31.2947°E |
Cod post | 14000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Chernihiv City Council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Chernihiv |
Pennaeth y Llywodraeth | Vladyslav Atroshenko |
Sonir am yr anheddiad hwn yn gyntaf yn 907, er bod olion archaeolegol yn awgrymu i bobl drigo yno ers y 7g. Sefydlwyd Tywysogaeth Chernihiv yn 988, a Chernihiv oedd un o brif ddinasoedd Rws Kiefaidd. Dirywiodd ei phwysigrwydd yn sgil goresgyniad y Mongolwyr dan arweiniad Batu Khan ym 1239–40, a daeth dan reolaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1353. Ymosodwyd ar y ddinas gan luoedd Chaniaeth y Crimea ym 1482 a 1497, a châi ei rheoli gan Uchel Ddugiaeth Mysgofi o 1408 i 1420 ac o 1503 nes i'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ei chipio ym 1618. Roedd yn un o ganolfannau milwrol yr Hetmanaeth Gosacaidd (Llu Zaporizhzhia), a daeth dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia ym 1667. Yn sgil diddymu'r Hetmanaeth ym 1764 byddai Chernihiv (neu Chernigov yn Rwseg) yn ganolfan weinyddol ranbarthol yn Ymerodraeth Rwsia, yn gyntaf i Lywodraethiaeth Malorossiya (1796–1802) ac yna Llywodraethiaeth Chernigov (1802–1918).
Tyfodd y ddinas fel croesfan yn yr oes ymerodrol, gan fanteisio ar ei phorthladd ar y Desna—un o brif isafonydd y Dnieper—a'i safle ar y ffordd rhwng Kyiv a Moscfa. Adeiladwyd gyffordd rheilffyrdd Chernihiv yn y cyfnod Sofietaidd, ac ymhlith y diwydiannau a ffynnai yn y ddinas mae gweithgynhyrchu ffibrau synthetig, peirianwaith, teiars, a nwyddau traul, gwaith pren a gwneuthuro pianos, a thrin bwydydd a gwlân.
Codwyd Eglwys Gadeiriol y Gweddnewidiad ym 1036, Eglwys y Dyrchafael ym Mynachlog Yelets yn y 11g, ac adeilad milwrol yn y dull baróc gan yr Hetman Ivan Mazepa yn nechrau'r 18g. Ymhlith y sefydliadau addysg mae Prifysgol Genedlaethol Bolytechnig Chernihiv (sefydlwyd 1960) a Choleg Diwinyddol Chernihiv (sefydlwyd 1776).
Cynyddodd y boblogaeth o 296,000 ym 1990[1] i 305,000 yn 2001,[2] ond gostyngodd i 300,000 yn 2005[2] ac i 285,000 yn 2021.