Awdures o'r Almaen oedd Christa Wolf (née Ihlenfeld; 18 Mawrth 19291 Rhagfyr 2011) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, gwleidydd, nofelydd ac awdur ysgrifau.[1][2] Mae'n un o'r awduron mwyaf nodedig sy'n hannu o Ddwyrain yr Almaen.[3][4]

Christa Wolf
GanwydChrista Ihlenfeld Edit this on Wikidata
18 Mawrth 1929 Edit this on Wikidata
Gorzów Wielkopolski Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 2011 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Man preswylKleinmachnow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethllenor, sgriptiwr, gwleidydd, cydweithiwr answyddogol, nofelydd, awdur ysgrifau, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ffuglen wyddonol, critig, awdur Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDer geteilte Himmel, Nachdenken über Christa T., Kindheitsmuster, Cassandra Edit this on Wikidata
Arddullrhyddiaith Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Undod Sosialaidd yr Almaen Edit this on Wikidata
PriodGerhard Wolf Edit this on Wikidata
PlantAnnette Simon Edit this on Wikidata
PerthnasauJan Faktor Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Georg Büchner, Gwobr Geschwister-Scholl, Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen, Gwobr Goffa Schiller, Gwobr Heinrich Mann, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Gwobr Nelly Sachs, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Gwobr Franz-Nabl, Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer, Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd, Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen, Gwobr Thomas-Mann, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Q105870591 Edit this on Wikidata

Magwraeth

golygu

Fe'i ganed yn Gorzów Wielkopolski ar 18 Mawrth 1929 a bu farw yn Berlin lle'i claddwyd ym Mynwent Dorotheenstadt. Priododd Gerhard Wolf. Ei rhieni oedd Otto a Herta Ihlenfeld, ac fe'i ganed yn Landsberg an der Warthe, a oedd bryd hynny yn Rhanbarth Brandenburg,[3] ond sydd bellach yng Ngwlad Pwyl ac yn cael ei adnabod fel Gorzów Wielkopolski.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei theulu, a oedd yn Almaenwyr, eu diarddel o'u cartref pan gymerwyd yr ardal a'i droi'n rhan o Wlad Pwyl. Bu iddyn nhw groesi'r ffin newydd Oder-Neisse yn 1945 a setlo ym Mecklenburg, yn yr hyn a fyddai'n dod yn Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, (Dwyrain yr Almaen). Astudiodd Christa lenyddiaeth ym Mhrifysgol Jena a Phrifysgol Leipzig. Ar ôl iddi raddio, gweithiodd i Undeb Awduron yr Almaen a daeth yn olygydd i gwmni cyhoeddi.[5][6][7][8][9][10][11]

Yr awdur

golygu

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Divided Heaven, The Quest for Christa T., Patterns of Childhood a Cassandra. Daeth llwyddiant Wolf fel awdur yn 1963 gyda chyhoeddiad Der geteilte Himmel (cyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Divided Heaven a hefyd They Divided the Sky).

Mae ei gweithiau llenyddol yn trafod grym gwleidyddol, economaidd a gwyddonol, gan ei gwneud yn llefarydd dylanwadol iawn yn Nwyrain a Gorllewin yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd ga ei bod yn annog rhoi grym i unigolion i fod yn weithgar yn y gymdeithas ddiwydiannol a phatriarchaidd.[12]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes; ymunodd a'r Blaid Undod Sosialaidd yr Almaen 1949 a'i gadael ym Mehefin 1989, chwe mis cyn i'r gyfundrefn Gomiwnyddol gwympo.

Beirniadaeth arni

golygu

Ers ailuno'r Almaen, mae gwaith Wolf wedi cael ei ystyried yn ddadleuol gan rai beirniaid llenyddol. Ar ôl cyhoeddi Was bleibt, dadleuodd beirniaid Gorllewin yr Almaen, fel Frank Schirrmacher, fod Wolf wedi methu â beirniadu awdurdodiaeth cyfundrefn Gomiwnyddol Dwyrain yr Almaen, tra bod eraill yn galw ei gweithiau'n "foesol". Mae ei hamddiffynwyr yn cydnabod rôl Wolf wrth sefydlu llais llenyddol Dwyrain yr Almaen.

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau'r GDR, Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Pwyllgor Canolog Plaid Sosialaidd yr Almaen, Academy of Arts, Berlin am rai blynyddoedd. [13][14]

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Georg Büchner (1980), Gwobr Geschwister-Scholl (1987), Gwobr Genedlaethol Dwyrain yr Almaen (1964, 1987), Gwobr Goffa Schiller (1983), Gwobr Heinrich Mann (1963), Gwobr Samuel-Bogumil-Linde (1999), Gwobr Nelly Sachs (1999), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid (2010), Gwobr Franz-Nabl (1983), Gwobr Lenyddol Elisabeth Langgässer (2000), Gwobr Gwladwriaeth Awstria ar gyfer Llenyddiaeth Ewropeaidd (1984), Gwobr Llenyddiaeth Dinas Bremen (1978), Gwobr Thomas-Mann (2010), Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel (1990), Q105870591 (1987)[15][16][17] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. A writer who spanned Germany's East-West divide dies in Berlin (obituary), Barbara Garde, Deutsche Welle, 1 Rhagfyr 2011
  2. Acclaimed Author Christa Wolf Dies at 82 (obituary), Der Spiegel, 1 Rhagfyr 2011.
  3. 3.0 3.1 Christa Wolf obituary, Kate Webb, The Guardian, 1 Rhagfyr 2011
  4. Christa Wolf obituary, The Telegraph, 2 Rhagfyr 2011.
  5. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2012. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
  6. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_391. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  7. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 4 Gorffennaf 2024.
  8. Dyddiad geni: А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". "Christa Wolf". "Christa Wolf". https://cs.isabart.org/person/116475. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 116475. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  9. Dyddiad marw: http://www.nytimes.com/2011/12/02/arts/christa-wolf-dies-at-82-wrote-of-the-germanys.html. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Christa Wolf". "Christa Wolf". "Christa Wolf". https://cs.isabart.org/person/116475. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 116475. "Christa Wolf". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  10. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  11. Man claddu: "Letzte Ruhestätte für Promis in Berlin". 28 Medi 2013.
  12. Frederiksen, Elke P.; Ametsbichler, Elizabeth G. (1998). Women Writers in German-Speaking Countries: A Bio-Bibliographical Critical Sourcebook. Greenwood Press. tt. 485, 486.
  13. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/116475. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 116475. https://de.wikipedia.org/w/index.php?title=Liste_deutschsprachiger_Science-Fiction-Autorinnen&oldid=187264839. https://cs.isabart.org/person/116475. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 116475.
  14. Anrhydeddau: http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm. dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015. https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009. https://cavavub.be/nl/eredoctoraten.
  15. http://www.adk.de/de/akademie/preise-stiftungen/H_Mann_Preis.htm. dyddiad cyrchiad: 12 Medi 2015.
  16. https://www.kunstkultur.bka.gv.at/staatspreis-fur-europaische-literatur. iaith y gwaith neu'r enw: Almaeneg. dyddiad cyrchiad: 8 Mai 2009.
  17. https://cavavub.be/nl/eredoctoraten.