Sioe Frenhinol Cymru

sioe amaethyddol ym Mhowys, Cymru
(Ailgyfeiriad o Y Sioe Frenhinol)

Sioe Frenhinol Cymru neu ar lafar: Sioe Llanelwedd yw sioe amaethyddol fwyaf Ewrop. Fe'i trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac fe'i cynhelir ym mis Gorffennaf ar faes ym mhentref Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt, Powys.

Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904, ac oherwydd ei lwyddiant, prynnwyd tir yn Llanelwedd ar ei gyfer yn 1963.

Ni chynhaliwyd sioe yn 1915-18, yn 1940-45 nac yn 2020 (sioe dros y we).

Darlledir yn fyw o'r maes gan S4C bob blwyddyn.

Rhaglen a digwyddiadau golygu

 
Maes y Sioe, Llanelwedd.

Mae'r sioe yn para am bedwar diwrnod ac yn denu mwy na 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, o Gymru a'r tu hwnt, sy'n ei gwneud yn un o atyniadau twristaidd mwyaf y wlad.

Mae'r digwyddiadau yn cynnwys:

Ceir nifer o stondinau busnes ar y maes, yn arbennig busnesau gyda chysylltiad ag amaethyddiaeth yng Nghymru. Yn ogystal mae'r sioe yn rhoi cyfle i ffermwyr gwrdd a thrafod ac efallai i ennill busnes newydd.

Y Sioe Frenhinol yw un o'r prif ddigwyddiadau cymdeithasol i ffermwyr Cymru. Mae Ffederasiwn y Ffermwyr Ifainc yn rhedeg cyfres o gystadlaethau rhanbarthol trwy'r flwyddyn gyda'r enillwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuthau cenedlaethol ar faes y Sioe.

Dolenni allanol golygu