Chwarddwr swynol
Chwarddwr swynol Garrulax canorus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Timaliidae |
Genws: | Garrulax[*] |
Rhywogaeth: | Garrulax canorus |
Enw deuenwol | |
Garrulax canorus |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Chwarddwr swynol (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: chwarddwyr swynol) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Garrulax canorus; yr enw Saesneg arno yw Hwamei (melodious laughing thrush). Mae'n perthyn i deulu'r Preblynnod (Lladin: Timaliidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn G. canorus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Aderyn 'passerine' (urdd mawr yr adar sy'n clwydo) o ddwyrain Asia yn y teulu Leiothrichidae yw'r hwamei Tsieineaidd neu'r chwarddwr swynol (Garrulax canorus). Daw'r enw "hwamei" o'r Tsieinëeg 画眉 (huà-méi) yn golygu "aeliau wedi'u paentio" gan gyfeirio at y marcio nodedig o amgylch llygaid yr aderyn. Mae'r aderyn sy'n cael ei gadw mewn cawell yn aml oherwydd ei gân ddeniadol.
Disgrifiad
golyguMae'n 21 i 25 cm o hyd gydag adenydd llydan, crwn a chynffon siâp gwyntyll. Mae'r plu yn goch-frown yn bennaf gyda rhediadau tywyll ar y coryn, y cefn a'r gwddf. Mae cylch gwyn o amgylch y llygad sy'n ymestyn am yn ôl fel streipen wen. Mae'r pig a'r traed yn felynaidd. Mae adar Ynys Hainan (L. c. owstoni) yn oleuach odditano ac yn fwy o liw olewydd uwchben. Mae hwamei Taiwan yn fwy llwydaidd ac yn fwy rhesog ac nid oes ganddo'r marciau gwyn ar y pen. Mae'r gân yn chwibaniad swnllyd, clir, amrywiol gydag ailadrodd rheolaidd gydag efelychiadau o adar eraill. .
Dosbarthiad a chynefin
golyguCeir yr isrywogaeth enwebedig canorus ar draws de-ddwyrain a chanolbarth Tsieina ac yng ngogledd a chanol Fietnam a Laos. Ceir yr hil G. c. owstoni ar Hainan.
Mae canorus wedi'i gyflwyno i Taiwan, Singapôr, Japan a Hawaii. Fe'i cyflwynwyd i Ynysoedd Hawaii yn gynnar yn yr 20fed ganrif ac mae bellach i'w gael mewn coedwigoedd brodorol a chynefinoedd mwy artiffisial. Mae'n gyffredin ar Kauai, Maui ac Ynys Hawaii ond yn llai felly ar Oahu a Molokai.
Mae'r aderyn yn byw mewn prysgdir, coetir agored, coedwig eilaidd, parciau a gerddi hyd at 1800 metr uwchben lefel y môr. Mae'n gyffredin mewn llawer o'i amrediad ac nid yw'n cael ei ystyried yn rhywogaeth dan fygythiad.
Ymddygiad
golyguAderyn swil yw hwn ac yn anodd iawn felly ei weld. Mae fel arfer yn bwydo ar y ddaear ymhlith dail, yn chwilota am bryfed a ffrwythau. Fe'i gwelir fel arfer mewn parau neu mewn grwpiau bach.
Mae'r tymor bridio yn para o fis Mai i fis Gorffennaf. Mae'r nyth mawr siâp cwpan yn cael ei adeiladu hyd at ddau fedr uwchben y ddaear mewn coeden neu lwyn neu ymhlith isdyfiant. Mae dwy i bump o wyau glas neu laswyrdd yn cael eu dodwy.
Genws
golyguMae'r chwarddwr swynol yn perthyn i'r genws Garrulax yn nheulu'r Preblynnod (Lladin: Timaliidae). Dyma aelodau eraill y genws:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Chwarddwr cribwyn | Garrulax leucolophus | |
Chwarddwr talcengoch | Garrulax rufifrons | |
Chwarddwr torchog bach | Garrulax monileger |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.