Chwedlau Odo

llyfr (gwaith)


Cyfieithiad Cymraeg Canol o gasgliad o bregethau Lladin sy'n cynnwys nifer o chwedlau enghreifftiol neu foeschwedlau am anifeiliaid yw Chwedlau Odo.

Ysgrifennwyd y testun Lladin gwreiddiol, a adnabyddir fel rheol dan yr enw Parabole Sancti, gan Odo o Cheriton (m. 1247), offeiriad a llenor o Sais, o dras Normanaidd, a aned yng Nghaint. Ymddengys y cafodd yr awdur llawer o'i ddeunydd o chwedlau tebyg yn Chwedlau Esop, y Roman de Renard a'r Bwystoriau. Cyfieithwyd y gwaith i'r Gymraeg gan Gymro anhysbys tua diwedd y 14g. Ceir y testun hynaf yn Llawysgrif Llanstephan 4, sydd i'w dyddio i ddegawd gyntaf y 15g, a cheir sawl testun diweddarach yn ogystal.

Anifeiliaid yw'r cymeriadau i gyd ac mae'r chwedlau ar ddull damhegion poblogaidd gyda moeswers ar y diwedd. Amrywia deunydd y chwedlau'n fawr. Storïau cryno am ddigwyddiadau ym myd yr anifeiliaid, sydd mewn gwirionedd yn fyd is-ddynol gyda gwahanol anifeiliaid yn cynrychioli mathau o bobl, yw'r chwedlau hyn. Mae ymddygiad yr anifeiliaid yn dysgu gwers i bobl yn y byd go iawn trwy amlygu rhagoriaethau a gwendidau dynion. Fel sy'n gyffredin yn llenyddiaeth boblogaidd yr Oesoedd Canol, ceir cymysgedd o'r glân a'r brwnt.

Llyfryddiaeth golygu