Llawysgrifau Llansteffan
Casgliad o lawysgrifau Cymreig yw Llawysgrifau Llansteffan (neu Llanstephan). Maent yn cynnwys testunau nifer o gerddi a thestunau rhyddiaith Cymraeg Canol, yn arbennig o gyfnod yr Oesoedd Canol Diweddar a'r Dadeni Dysg.
Math o gyfrwng | casgliad, llyfrgell, casgliad o lawysgrifau |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 1690 |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Plas Llanstephan, Shirburn Castle |
Perchennog | Llyfrgell Genedlaethol Cymru, John Williams |
Yn cynnwys | Llyfr Coch Talgarth |
Gwladwriaeth | Cymru |
Ffurfiwyd cnewyllyn y casgliad gan y copïwr llawysgrifau Samuel Williams (c.1660-1722), offeiriad Llandyfrïog a Llangynllo (Ceredigion) a'i fab, yr hynafiaethydd Moses Williams (1685-1742). Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llawysgrifau o gasgliadau Walter Davies (Gwallter Mechain), Lewis Morris, Edward Breese ac E. G. B. Phillimore. Cafodd y casgliad ei gyflwyno i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Syr John Williams yn 1909; fe'u gelwir yn Llawysgrifau Llansteffan am fod Syr John wedi dod â'r casgliad ynghyd yn ei bentref genedigol Llansteffan (Sir Gaerfyrddin). (Er mai Llansteffan yw'r ffurf Gymraeg arferol ar enw'r pentref, cyfeirir at y casgliad fel Llawysgrifau Llanstephan gan amlaf).
Ymhlith y testunau a geir yn y casgliad pwysig hwn ceir cerddi gan rhai o Feirdd yr Uchelwyr, fel Dafydd ap Gwilym, Guto'r Glyn, Lewys Glyn Cothi, Tudur Aled, Gutun Owain, Siôn Brwynog, Morgan Elfael, a Llywelyn Siôn, ynghyd â gwaith o law Siôn Dafydd Rhys. Yn llawysgrif Llanstephan 4 ceir y testun cynharaf o Chwedlau Odo (tua dechrau'r 15g. Y llawysgrif bwysicaf yw Llyfr Coch Talgarth (tua 1400).