Melysion yw cisys (ffurf unigol: cisen). Daw o'r gair Saesneg tafodieithol kiss, sef "melysfwyd o gynhwysion amrywiol".[1] Defnyddir y gair hwn yn yr ystyr gyffredinol o felysion ar lafar weithiau yn ne ddwyrain Cymru[2] ac yng ngogledd Ceredigion[1] ac yn ysbeidiol yng ngogledd Sir Benfro.[3]

Yng Ngwledydd Prydain, yr Unol Daleithiau a Chanada defnyddir y gair kiss i ddisgrifio amryw o felysion, ond gan amlaf melysyn sy'n galed ar y tu allan a gyda llenwad meddal. Er enghraifft, malws melys a ddodir mewn siocled, neu ddwy fisged gyda eisin meddal yn eu dal. Ceir enwau tebyg mewn gwledydd eraill, er enghraifft bocconetti di mandorla (cisys almon) yn yr Eidal, sef bisgedi almon bychain a lenwir gyda jam. Yn India bwyteir danteithfwyd melys o'r enw cool kiss, sy'n cynnwys ffrwyth, siwgr, blawd tatws, ac hufen.[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  cisen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Mehefin 2015.
  2. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1422 [sweet].
  3. Thomas, Beth a Thomas, Peter Wynn. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno'r Tafodieithoedd (Caerdydd, Gwasg Taf, 1989), t. 15.
  4. Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 436.