Ciwa

santes o'r 5g o Went a Chernyw

Santes a merthyr o Gymru oedd Ciwa neu Gigwa (Cernyweg: Cuach, Kuet; Saesneg: Kew) o ddechrau'r 5g. Yn Nheyrnas Gwent y'i ganed, mae'n debyg, a dywedir ei bod yn chwaer i Dochau ac iddi deithio drwy Glastening, Gwlad yr Haf lle sefydlodd Eglwys Kewstoke ar ei ffordd i Lannohou (St. Kew) er mwyn ei weld.[1]

Ciwa
Eglwys fach Sant Ioan, Llangiwa ar lan Afon Mynwy, a sancteiddiwyd i Cigwa ar un cyfnod.
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwent Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl8 Chwefror Edit this on Wikidata

Yn ôl y traddodiad cysylltir hi gyda Sant Cyngar a wrthodai ymweld â hi nes ei bod wedi dofi mochyn-gwyllt, du: hen stori, sy'n debyg iawn i'r un am y Twrch Trwyth yn y Mabinogi. Ymunodd pum plwy i ymlid y mochyn gwyllt gan ei ladd ar yr union fan lle saif yr eglwys bresennol, a symudwyd yno o Lanowe gan Ciwa.[2]

Dethlir ei gwylmabsant ar 8 Chwefror, ond camgopiwyd y dyddiad mewn llawysgrif, fel 6 Chwefror.[2] Yn ôl Roscarrock, hi oedd "plentyn ysbrydol Sant Piran" a drigai fel meudwy ar ynys ar arfordir Cernyw. Credir mai un o'i phreswylfeydd cynnar oedd Ladock (Lan-ty-Cuach) yng Nghernyw ac yno dethlir ei gwylmabsant ar yr dydd Iau cyntaf o Ionawr, sy'n cyd-fynd fwy neu lai gyda gwylmabsant y Gwyddelod (gweler isod). Nid cyfeiriad at y sant gwrywaidd Cadog yw hyn yn ôl yr haneswyr.

Ceir dwy eglwys a sancteiddiwyd iddi yn y gorffennol: Llangiwa (neu 'Llangua') yn Sir Fynwy, a sillafwyd fel 'Lagywan' yn y Norwich Taxatio, 1254 a Lanndoghow, Lannow, Lan-ciw neu Pluw Gew (Saesneg: St Kew) yng Nghernyw (Eglwys Sant Iago, bellach).

Iwerddon

golygu

Mynnodd Baring-Gould a John Fisher mai'r un ydoedd â Cuach, nyrs Ciaran o Iwerddon, gan y dethlir ei gwylmabsant hithau ar 8 Ionawr.

Llydaw

golygu

Hyd at 833 ÔC safai mynachdy ger Klegereg yn Llydaw o'r enw "Lann-ty-Cocan" a gysegrwyd iddi, trigai nifer o Wyddelod yn Klegereg.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu