Ptolemi

mathemategydd, seryddwr, daearyddwr Rhufeinig o'r 2il ganrif (100-170)
(Ailgyfeiriad o Claudius Ptolemy)

Mathemategydd, seryddwr a daearyddwr Groegaidd o'r Aifft oedd Ptolemi, enw llawn Claudius Ptolemaeus (Groeg: Κλαύδιος Πτολεμαῖος Klaúdios Ptolemaĩos; ar ôl 83 - wedi 161 OC).

Ptolemi
GanwydΚλαύδιος Πτολεμαῖος Edit this on Wikidata
c. 100 Edit this on Wikidata
Ptolemais Hermiou Edit this on Wikidata
Bu farwc. 170 Edit this on Wikidata
Alexandria, Canopus Edit this on Wikidata
Man preswylAlexandria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, daearyddwr, seryddwr, astroleg, damcaniaethwr cerddoriaeth, athronydd, cerddolegydd, epigramwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amAlmagest, Geography, List of Roman emperors, Ptolemaic map, Ptolemy's intense diatonic scale, Ptolemy's table of chords, Ptolemy's inequality, Ptolemy's theorem, equant, quadrant, Tetrabiblos, Handy Tables Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAristoteles Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl yma am y gwyddonydd Groegaidd. Am eraill o'r un enw, gweler Ptolemi (gwahaniaethu)

Roedd yn byw yn nhref Ptolemais Hermiou yn y Thebaid yn yr Aifft, a oedd bryd hynny yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, ac mae'n debyg ei fod yn enedigol o'r dref honno. Bu farw yn Alexandria.

Roedd yn awdur nifer o draethodau gwyddonol, a bu tri o'r rhain yn eithriadol o bwysig. Un oedd yr Almagest (Groeg: Η Μεγάλη Σύνταξις, "Y Traethawd Mawr", yn wreiddiol Μαθηματικἠ Σύνταξις, "Traethawd Mathemategol"). Yr ail yw'r Geographia, trafodaeth fanwl ar ddaearyddiaeth y byd Groeg a Rhufeinig. Y trydydd yw'r traethawd Tetrabiblos ("Pedwar llyfr") sy'n ymgais i gymhwyso sêr-ddewiniaeth at athroniaeth naturiol Aristotelaidd.

Yn 833 cyhoeddodd Muhammad ibn Mūsā al-Khwārizmī ei Kitāb ṣūrat al-Arḍ ("Llyfr ymddangosiad y ddaear"), fersiwn wedi ei ddiweddaru a'i gwblhau o'r Geographia.

Gweler hefyd golygu

  • Geodeddwyr: gwyddonwyr a fu'n astudio'r gangen hon o fathemateg gymhwysol