Clive Rowlands

hyfforddwr rygbi'r undeb

Cyn-chwaraewr a hyfforddwr rygbi’r undeb o Gymro oedd Daniel Clive Thomas Rowlands (14 Mai 193829 Gorffennaf 2023)[1]. Enillodd 14 cap dros Gymru, ac yn ddiweddarach bu'n hyfforddwr Cymru. Ef oedd yr unig ddyn i fod yn gapten, yn hyfforddwr ac yn rheolwr ar dîm Cymru. [2]

Clive Rowlands
Ganwyd14 Mai 1938 Edit this on Wikidata
Cwm-twrch Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 2023 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhyfforddwr chwaraeon, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe, Tîm Rygbi Pont-y-pŵl Edit this on Wikidata
SafleMewnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganwyd ef yng Nghwmtwrch Uchaf, a bu'n byw yno drwy ei oes. Roedd yn athro wrth ei alwedigaeth.

Gyrfa golygu

Chwaraeodd i glybiau rygbi Pontypwl, Llanelli ac Abertawe. Bu’n gapten Pontypwl yn ystod tymor 1962 – 63 ac Abertawe yn nhymor 1967 – 1968. Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Lloegr yn 1963. Ef oedd y capten, ac mae ganddo’r record anghyffredin o fod wedi chwarae pob un o’i 14 gêm dros Gymru rhwng 1963 a 1965 fel capten. Arweiniodd Gymru i’r Goron Driphlyg am y tro cyntaf ers 1952.

Yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1963, roedd y tywydd yn wlyb a chymaint o fwd ar y cae nes i Rowlands a David Watkins benderfynu cicio’r bel dros yr ystlys bob cyfle a gaent. O ganlyniad bu 111 o linellau yn ystod y gem yma. Enillodd Cymru’r gêm 6-0, ond o ganlyniad i’r gem yma, newidiodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol y rheolau, fel mai dim ond o’r tu mewn i’w linell 22 ei hun y cai chwaraewr gicio’r bêl yn uniongyrchol dros yr ystlys.

Wedi ymddeol fel chwaraewr, bu’n hyfforddwr Cymru am 29 gêm, rhwng 1968 a 1974, y person ieuengaf i fod yn y swydd. Bu’n gyfnod llwyddiannus iawn i’r tîm cenedlaethol, yn cynnwys y Gamp Lawn yn 1971. Bu’n rheolwr tim y Llewod ar eu taith i Awstralia yn 1989.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Clive Rowlands wedi marw". Golwg360. 2023-07-30. Cyrchwyd 2023-07-30.
  2. "Clive Rowlands, cyn-gapten a rheolwr rygbi Cymru, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2023-07-30. Cyrchwyd 2023-07-30.