Clustlys gwyn
Clustlys gwyn Diplophyllum albicans | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Diplophyllum |
Rhywogaeth: | D. albicans |
Enw deuenwol | |
Diplophyllum albicans |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Clustlys gwyn (enw gwyddonol: Diplophyllum albicans; enw Saesneg: white earwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon yn eithaf cyffredin ac i’w chanfod yng Nghymru, yr Alban, Lloegr ac yn iwerddon, a gwleydd eraill.
Disgrifiad
golyguEr gwaethaf ei enw, mae'r Clustlys gwyn (D. albicans) yn wyn yn unig pan mae'n sych (neu'n farw!) ac mae fel arfer yn frown neu'n weithiau coch, neu'n wyrdd yn y cysgodion. Ceir clystyrau o egin bychan gwyrdd yn aml yn ffurfio ar flaenau llabedau'r dail. Mae'r coesynnau'n tyfu hyd at 3.5 mm o led, a gallant fod yn sawl centimetr o hyd. Mae'r dail hyd at 0.8 mm o led ac 1.8 mm o hyd.
Cynefin
golyguFel arfer mae'r Clustlys gwyn yn tyfu ar bridd, mawn, creigiau ac yn anaml ar foncyffion, bonion coed neu hyd yn oed ar waelod coed byw. Mae'n o'r dywodfaen neu graig siâl mewn coetiroedd, gan gynnwys hen chwareli, ar glogwyni agored neu ar bridd agored ar lwybrau coedwigoedd.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.