Clwb Golff Caerdydd

clwb golff yng Nghyncoed, Caerdydd

Mae Clwb Golff Caerdydd (Saesneg: Cardiff Golf Club) yn glwb golff a leolir yn ardal maestref Cyncoed yn y brifddinas. Fe'i sefydlwyd yn 1921 ar dir Fferm Tŷ To Maen, oedd ar y pryd yn eiddo i Ewan G. Davies, cyfreithiwr a thirfeddiannwr.[1] Lleolir y clwb ar Sherborne Avenue, Cyncoed, Caerdydd.

Clwb Golff Caerdydd
Enghraifft o:clwb golff Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechreuwyd1921 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCyncoed Edit this on Wikidata

Y cwrs

golygu

Mae hyd y cwrs oddeutu 6,000 llath ac mae'n gwrs parcdir. Mae'n gwrs 18 twll, a ddylunwyd gan y golffiwr proffesiynol Robert Walker a nifer o aelodau'r pwyllgor yn syth wedi bwrcasu'r tir.[2] Yn ôl pleidlais gan wefan Top 100, roedd y clwb yn un o ugain cwrs golff gorau Cymru.[3]

Nid dyma glwb golff hynaf Caedydd - mae clybiau Llanisien, Radur, a'r Eglwys Newydd yn hŷn.

Sefydlwyd y clwb yn sgil penderfyniad dau ddyn ifanc, Reuben J Pugsley a Trevor Williams, oedd am weld clwb yng ngogledd ddwyrain y ddinas. Roedd y dau olffiwr wedi cael llond bol o seiclo i gwrs Leys ger yn y Barri i chwarae. Rhoddwyd hysbyseb ym mhapur y Western Mail, a arianwyd gan Robert Webber. Ar 24 Mai 1921 cynhaliwyd cyfarfod yn Eglwys Santes Marged, Gerddi Waterloo, Caerdydd ar gyfer pobl oedd yn cefnogi creu clwb a chwrs golff newydd. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y cynullydd Mr R J Pugsley a denodd sylw dros 500 o bobl. Penodwyd Trevor Williams yn ysgrifennydd a ffurfiwyd pwyllgor cychwynnol i symud y prosiect yn ei flaen. Cyn hir roedd rhestr aelodaeth arfaethedig o 650 o bobl o'r ddau ryw.[1]

Cyfeiriwyd at y clwb yn wreiddiol fel Clwb Golff Penylan (oedd yn fwy cywir fel enw ac yn darlunio daearyddiaeth y clwb yn well), ond maes o lew penderfynwyd ar yr enw Cardiff Golf Club (yn uniaith Saesneg bid siŵr).

Mae’r clwb wedi gwneud cyfraniad sylweddol i golff Cymru dros y blynyddoedd, gan gynhyrchu llawer o Bencampwyr Amatur a Rhyngwladol dros Gymru gan gynnwys H C Squirrell Ysw, Pencampwr Amatur Cymru bum gwaith. Mae'r clwb hefyd wedi cynnal Pencampwriaeth Broffesiynol Cymru ar sawl achlysur.

Newid cwrs

golygu

Ym 1972 gwerthodd y Clwb dir y tu ôl i'r 13eg a'r 15fed tî o dan Orchymyn Prynu Gorfodol i Gyngor Dinas Caerdydd am £18,500. Roedd angen y tir hwn ar gyfer ffordd perimedr newydd Pentwyn. O ganlyniad gadawyd y Clwb gyda pharsel trionglog o dir oddi ar Ffordd Tydraw wedi'i wahanu oddi wrth y Cwrs ac a werthwyd yn y diwedd ym 1996. Roedd y swm a gafwyd o’r gwerthiant hwn ynghyd â swm sylweddol pellach a dderbyniwyd fel ad-daliad TAW yn dilyn dyfarniad gan y Comisiwn Economaidd Ewrop (un o gyrff yr Undeb Ewropeaidd), at y posibilrwydd o wella cyfleusterau'r clwb.[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Cardiff Golf Club Centenary". Gwefan Clwb Golff Caerdydd. 2021. Cyrchwyd 7 Hydref 2024.
  2. "Cardiff Golf Course". Gwefan Top 100 Golf Courses. Cyrchwyd 7 Medi 2024.
  3. "Course Overview". Gwefan CGC. Cyrchwyd 8 Hydref 2024.
  4. "Clubhouse History". Gwefan CFC. Cyrchwyd 8 Hydref 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am golff. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.