Clwb Golff Llaneirwg

Clwb golff ym maestref Llaneirwg rhwng Caerdydd a Chasnewydd

Mae Clwb Golff Llaneirwg (Saesneg: St Mellons Golf Club) yn glwb golff a leolir i'r dwyrain o faestref Llaneirwg yng Nghaerdydd tuag at Casnewydd. Lleolir y clwb yn Llaneirwg, Caerdydd, CF3 2XS.

Clwb Golff Llaneirwg
Enghraifft o'r canlynolclwb golff Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/Sefydlu1937 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthLlaneirwg Edit this on Wikidata

Y cwrs

golygu
 
Mynediad i'r Clwb

Mae hyd y cwrs oddeutu 6,200 llath ac mae'n gwrs parcdir. Mae'n gwrs 18 twll, 70 par, a ddylunwyd gan y cynllunydd cyrsiau golff, Henry Shapland Colt bu hefyd yn gyfrifol am ddylunio cyrsiau golff ar y chwe cyfandir gan gynnwys rhai adnabyddus ar ynysoedd Prydain fel Wentworth Club, Sunningdale, Muirfield, Royal Portrush, a'r Royal Liverpool. Mae'r cwrs yn adnabyddus am ei siâp “meillionen” amlinellol gyda 18 twll unigryw ynghyd â chyfleusterau clwb da.[1]

Agorodd Clwb Golff Llaneirwg ym 1937 ac fe’i cynlluniwyd gan H.S. Colt. gellir dadlau mai'r pensaer cwrs golff gorau a fu erioed. Cynlluniodd dros 300 o gyrsiau ar draws y byd.

Adeiladwyd y cwrs ar dir oedd yn cynnwys hen adeilad Llwynarthan - adeilad hir, deulawr, â stwco gyda thoeau talcennog. Mae bellach wedi ei hadnewyddu ac yn gweithiredu fel Gwesty St Mellons.[2]

Daeth Llaneirwg yn Glwb Aelodau ym 1964, gan wneud 2014 yn hanner canmlwyddiant y sefydliad.[3]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "St Mellons Golf Club History". Gwefan Clwb Golff Llaneurwg. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
  2. "St Mellons Golf Club". Gwefan Coflein Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
  3. "St Mellons Golf Club". Golf Day Guide. Cyrchwyd 8 Hydref 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am golff. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.