Clydog
Yn ôl traddodiad, brenin neu arglwydd Ewias yn ne-ddwyrain Cymru a gofir fel sant oedd Clydog. Yn ôl yr achau, roedd yn fab i Glydwyn neu Gledwyn, un o feibion niferus Brychan Brycheiniog. Dethlir ei ddydd gŵyl ar ddau achlysur: 19 Awst ac yn draddodiadol ar 3 Tachwedd.
Clydog | |
---|---|
Ganwyd | 8 g Cymru |
Bu farw | Ewias |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Blodeuodd | 500 |
Dydd gŵyl | 19 Awst, 3 Tachwedd |
- Erthygl ar berson yw hon; am y pentref yn Swydd Henffordd, gweler Clydog (Swydd Henffordd).
Mae un o siarteri Llyfr Llandaf y gellir ei ddyddio o'r 8g, yn enwi un Clydog, "brenin yn Ewias", ac yn dweud iddo gael ei lofruddio tra'n hela. Roedd merch fonheddig wedi syrthio mewn cariad â Chlydog a chafodd ei ladd gan ei chariad arall, gwrthodedig, wrth iddo hela. Cludwyd ei gorff ar gert i lan Afon Mynwy ond gwrthododd yr ychen fynd dros y rhyd a thorodd echel y cert. Claddwyd Clydog yno. Codwyd creirfa iddo ar y safle ym Merthyr Clydog (pentref Clodock yn Swydd Henffordd heddiw); roedd Ewias yn cynnwys rhan sylweddol o'r sir Seisnig bresennol). Tyfodd Merthyr Clydog i fod yn brif ganolfan eglwysig Ewias yn yr Oesoedd Canol.
Ceir eglwysi eraill sy'n gysegredig iddo yn Llanfeuno (Llanveynoe, Swydd Henffordd), Longtown, Swydd Henffordd a Cresswell.
Ffynhonnell
golygu- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)