Clodock
Pentref gwledig bychan yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Clodock[1] (Seisnigiad o'r enw Cymraeg Clydog). Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Longtown.
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.9419°N 2.9822°W |
Bu Clodock yn adnabyddus wrth yr enw Cymraeg Merthyr Clydog (gweler isod), enw sy'n dyddio i'r cyfnod pan fu'r rhan hon o Swydd Henffordd yn rhan o gwmwd Cymreig Ewias. Hyd at 1852 roedd y plwyf yn Esgobaeth Tyddewi.[2] Dywedir i'r dyn olaf a siaradai'r Gymraeg yn y pentre farw ym 1883.
Gorwedd y pentref yn y bryniau ar lan Afon Mynwy yn ne-orllewin y sir yn agos i'r ffin â Chymru, tua 10 milltir i'r gogledd o'r Fenni. Fe'i lleolir ar ffordd wledig sy'n dringo o Lanfihangel Crucornau yn Sir Fynwy i bentref Longtown, Swydd Henffordd.
Mae un o siarteri Llyfr Llandaf y gellir ei ddyddio o'r 8g, yn enwi un Clydog, "brenin yn Ewias", ac yn dweud iddo gael ei lofruddio tra'n hela. Roedd merch fonheddig wedi syrthio mewn cariad â Chlydog a chafodd ei ladd gan ei chariad arall, gwrthodedig, wrth iddo hela. Cludwyd ei gorff ar gert i lan Afon Mynwy ond gwrthododd yr ychen fynd dros y rhyd a thorodd echel y cert. Claddwyd Clydog yno. Codwyd creirfa iddo ar y safle ym Merthyr Clydog (safle pentref Clodock heddiw). Tyfodd Merthyr Clydog i fod yn brif ganolfan eglwysig Ewias yn yr Oesoedd Canol.[3]
Mae'r eglwys leol, Sant Clydog (weithiau 'St Clydawg'), yn dyddio i'r 12g ac fe'i cofrestrwyd yn Radd I.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Medi 2020
- ↑ "Gwefan Vision of Britain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-18. Cyrchwyd 2017-08-19.
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)