Clystyrau cytiau Cerrig y Dinas

Olion math o gytiau hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Efydd yw clystyrau cytiau Cerrig y Dinas, yng nghymuned Henryd, Conwy; cyfeiriad grid SH753741. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol.

Clystyrau cytiau Cerrig y Dinas
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Disgrifiad golygu

Mae'r cytiau hyn yn gysylltiedig â bryngaer Cerrig-y-dinas (Cerrig-y-ddinas ar y map OS), sy'n dyddio o Oes yr Haearn.[1] Fe'u lleolir ychydig i'r gogledd o hen eglwys Llangelynnin.

Cofrestrwyd yr olion hyn gan Cadw a chânt eu hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CN127.[2]

Cefndir golygu

Cychwynnwyd codi cytiau crynion tua 1,500 C.C. a daethant i ben tua'r adeg y daeth y Rhufeiniaid i Ynys Prydain. Mae'r brodorion a'u cododd hefyd yn gyfrifol am godi carneddau, beddrodau siambr, twmpathau, cylchoedd cerrig, bryngaerau a meini hirion. Maen nhw i'w canfod yng Ngwynedd, Môn, Sir Conwy a Sir Gaerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu

  1. Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1976).
  2. Cofrestr Cadw.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.