Mae codin yn gysglyn a ddefnyddir i drin poen, fel meddygaeth peswch, ac ar gyfer dolur rhydd.[1]

Codin
Co-codamol
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathmorphinan alkaloid Edit this on Wikidata
Màs299.152 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₈h₂₁no₃ edit this on wikidata
Enw WHOCodeine edit this on wikidata
Clefydau i'w trinPoen, peswch edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Rhan oresponse to codeine, cellular response to codeine, codeine metabolic process, codeine catabolic process Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnitrogen, carbon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd

golygu

Defnyddir codin fel arfer i drin graddau ysgafn i gymedrol o boen. Gall mwy o fudd deillio o gyfuno codin â pharasetamol neu gyffur gwrthlidiol ansteroidal (NSAID) fel aspirin neu ibuprofen.[2]

Nid yw tystiolaeth yn cefnogi ei ddefnydd ar gyfer atal peswch acíwt mewn plant nac oedolion.  Yn Ewrop ni chaiff ei argymell fel meddygaeth peswch yn y rhai dan ddeuddeg oed[3]. Yn gyffredinol caiff ei gymryd trwy'r genau. Fel arfer mae'n dechrau gweithio ar ôl hanner awr gyda'r effaith fwyaf ar ôl dwy awr. Mae hyd ei effeithiau yn para am tua phedair i chwe awr.

Sgil effeithiau

golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys chwydu, rhwymedd, cosi, y bendro ac aflonyddwch[4]. Gall sgil effeithiau difrifol gynnwys anawsterau anadlu a dod yn gaeth i'r cyffur.  Nid yw'n glir a yw ei ddefnydd yn ystod beichiogrwydd yn ddiogel. Dylid defnyddio gofal yn ystod bwydo ar y fron gan y gallai arwain at wenwyno'r babi. Nid yw ei ddefnydd yn cael ei argymell ar gyfer plant.

Mecanwaith

golygu

Mae Codin yn gweithio ar ôl cael ei dorri gan yr afu i mewn i forffin.  Mae pa mor gyflym mae hyn yn digwydd yn dibynnu ar eneteg person.

Mae codin ar gael fel rhan o'r paratoadau cyfansawdd canlynol (ymysg eraill)

  • Co-codamol
  • Codafen continus
  • Codis
  • Cuprofen plus
  • Feminax
  • Migraleve
  • Nurofen plus
  • Panadol Ultra
  • Paracodol
  • Pulmo Bailly
  • Solpadol
  • Syndol
  • Tylex
  • Veganin

Mae angen rhagnodyn meddyg ar gyfer rhai o'r paratoadau, mae eraill ar gael o fferyllfa yn unig ac eraill ar gael mewn siopau ac archfarchnadoedd cyffredin.

Hanes, cymdeithas a diwylliant

golygu

Darganfuwyd Codin ym 1832 gan Pierre Jean Robiquet. Yn 2013, cynhyrchwyd tua 361,000 cilogram o godin a defnyddiwyd 249,000 cilogram. Mae hyn yn ei gwneud hi'r gysglyn mwyaf cyffredin. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

Mae codin yn sylwedd naturiol sy'n ffurfio tua 2% o opiwm

Cyfeiriadau

golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!