Coedwigoedd Llanandras

Coedwigoedd yn ardal Llanandras, Sir Faesyfed, Powys, ar y ffin â Lloegr

Lleolir Coedwigoedd Llanandras yn cynnwys Coedwig Nash ar y Gororau ac mae'n hynod am fod hanner y goedwig yng Nghymru a’r hanner arall yn Lloegr. Mae'r ochr Gymreig, filltir i'r de o dref Llanandras ym Mhowys. Camenwir y Coedwigoedd yn Coedwigoedd Presteigne gan ddefnyddio'r enw Saesneg ar bentref Llanandras, yn lle'r un Gymraeg ar wefan Llywodraeth Cymru ar Coedwig Genedlaethol i Gymru.[1]

Coedwigoedd Llanandras
Enghraifft o'r canlynolcoedwig Edit this on Wikidata
LleoliadLlanandras Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthPowys Edit this on Wikidata
Mynydd Rhos Fawr a Fforest Clun yn ardal Coedwig Nash
Nodwedd o'r tirlun amaethyddol a'r coetir wrth Coedwig Llanandras

Mae’r llwybr cylchol yn arwain at Burfa Bank ac oddi yno ceir golygfeydd dros Fforest Clud ('Radnor Forest' yn Saesneg a gam-gyfieithir yn llythrennol i 'Coedwig Maesyfed' ar adegau) a Burfa Bank, un o’r llu o fryngaerau ar y rhan hon o’r ffin.

Mae'r cynefin coetir yma yn ddelfrydol i weld andar fel y: bwncath a gwalch Marthin, gwelwch adar pila neu cyflingroes sy’n ffynnu ar y conau mawr a gynhyrchir gan y goed ffynidwydd Douglas urddasol. Mae’n gyfle da hefyd i weld un o'r nifer fawr o iyrchod sy'n byw yma ac, os dewch draw yn yr hydref, cofiwch gadw llygad yn agored am ffwng lliwgar.[2]

Mae'r goedwig yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020.[3]

Coedwig Clud

golygu

Mae Coed Nash wedi’i leoli yn yr ardal elwir yn Goedwig Maesyfed.

Roedd Fforest Clud unwaith yn dir hela brenhinol.

Yr adeg honno, nid ardal goediog oedd hon ond darn o dir agored, wedi ei neilltuo’n gyfreithiol fel tir hela ceirw i’r brenhinoedd Normanaidd.

Heddiw mae Coedwig Clud yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion serth a bryniau, ac mae’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Y Domen Ddu sy’n 650 metr (2,150 troedfedd) o uchder.

Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir arall a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed: Coed Cwningar a Choedwig Fishpool.

Hamdden

golygu

Mae'r coetir wedi ei ddatblygu ar gyfer hamdden ac ymlacio.

Llwybr cerdded

golygu

Ceir un llwybr cerdded o fewn y goedwig.

  • Llwybr Nash - Gradd: Cymedrol, pellter: 2.1 filltir/3.5km. Mae’r prif lwybr yn mynd yn ei flaen ar hyd llwybrau culion drwy’r coetir a cheir rhywfaint o waith dringo mewn mannau. Ar ôl gwaith dringo serth drwy’r coetir, mae’r llwybr yn dod at ffordd goedwig ac yna’n mynd yn ei flaen gan ddringo at olygfan Burfa.

Mae’r olygfan yn edrych dros fryngaer Oes Haearn, Burfa Bank, ac oddi yma ceir golygfeydd dros Ddyffryn Maesyfed a thu hwnt, draw i Swydd Henffordd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Safleoedd cyntaf wedi'u cyhoeddi ar gyfer y Fforest Genedlaethol – "Ymhlith y coetiroedd gorau yng Nghymru"". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  2. 2.0 2.1 "Coed Nash, ger Llanandras". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 10 Mai 2023.
  3. "Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 10 Mai 2023.

Dolenni allanol

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.