Cofadail Michael Collins ac Arthur Griffith, Tŷ Leinster

Bu Cofadail i Michael Collins ac Arthur Griffith, dau o arweinwyr Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ar Lawnt Tŷ Leinster, cartref Deddfwrfa Oireachtas Gweriniaeth Iwerddon.

Cofadail Michael Collins ac Arthur Griffith, Tŷ Leinster
Mr John McCormack placing a wreath on the cenotaph erected to the memory of the late Michael Collins and Arthur Griffith at Leinster Lawn (16307907087).jpg
Mathcofeb Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTŷ Leinster Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3406°N 6.2539°W Edit this on Wikidata
Mr John McCormack yn gosod torch mewn cof am Michael Collins a Arthur Griffith ar y Gofadail wreiddiol ar Lawnt Leinster

CodiGolygu

 
Cofadail newydd, "anweledig" i Arweinwyr Annibyniaeth Iwerddon. Ar safle'r gofadail wreiddiol i Collins a Griffith

Dadorchuddwyd cofadail i Michael Collins ac Arthur Griffith yn yr ardd yng nghefn Tŷ Leinster, Dulyn yn 1923. Ceir clip ffilm fer o'r dadorchuddio yn 1923.[1]

Codwyd hi i gofio am ddau o sefydlwyr Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ac oedd wedi marw yn 1922 - wedi ei ladd gan filwyr 'Gwrth-Cytuneb' yr IRA, oedd yn gwrthwynebu Cytundeb Iwerddon gyda Phrydain, yn achos Michael Collins, a gan straen (yn ôl rhai) yn achos Arthur Griffith.

Codwyd y gofadail yng nghefn adeilad Tŷ Leinster oedd newydd ei wneud yn gartref i senedd Iwerddon yn 1922. Dadorchuddwyd hi ar 13 Awst 1923 [2] mewn seremoni rwysgfawr a ffilmiwyd gan wasanaeth newyddion Pathé.[1]

DyluniadGolygu

Dylunwyd y gofeb gan George Atkinson, Prifathro Ysgol Gelf Fetropolitan Dulyn, 1918-1937, a Chyfarwyddwr gyntaf Coleg Gelf Genedlaethol Iwerddon. Dyluniwyd hi fel cofeb dros-dro. Adeiladwyd y gofadail o bren ai gorchuddio â sment. Roedd ar ffurf Croes Geltaidd 12 metr o uchder gyda 'meini' naill ochr i'r groes. Ar y meini ceir penddelwau proffil ochr o Griffith a Collins wedi eu gwneud o blaster a modelu gan Albert Power.[3][4]. Ceir arysgrifiad mewn Gwyddeleg ar ganol y trawst y groes.[5]

Yn dilyn dienyddio Kevin O’Higgins yn 1927, ychwanegwyd trydydd plac.

Pan ddaeth plaid Fianna Fail, sef blaid y bobl oedd yn gwrthwynebu'r Cytuned ac a bu'n ymladd yn y Rhyfel Cartref yn erbyn lluoedd llywodraeth newydd y Wladwriaeth Rydd o dan arweiniad Collins a Griffith, roedd dyfodol y gofadail yn ansicr. Gwelwyd y gofadail yn arwydd pryfoclyd gan y wladwriaeth yn erbyn y rhai bu'n gwrthwynebu ac yn ymladd yn erbyn y Cytundeb.

SymudGolygu

Roedd y gofeb yn ffocws ralïau a seremonïau cofio i ddau o sefydlwyr ac arwyr y wladwriaeth newydd. Ond yn yr 1930au, gyda Fianna Fail mewn grym ers 1932 ac wrth i aelodau o'r Cumann na nGaedheal a'r blaid bu'n llywodraethu gan mwyaf hyd at 1932, greu mudiad lled-ffasgadd yr Army Comrades Association (a adnabwyd fel y Blueshirts) cafwyd pryder y byddai coup d’etat yn erbyn Fianna Fail. Baniwyd y ralïau.

Yn 1939 (neu 1940), symudwyd y gofadail gan de Valera.[4][6]. Codwyd obelisg dennau, tal, 60 troedfedd, yn ei le yn 1950 yn y man lle bu'r gofadail wreiddiol. Ychwanegwyd enw Kevin O'Higgins, sylfaenydd y Garda Síochána (heddlu'r wladwriaeth) i'r ddau arall.[2] Galwyd y gofadail newydd yma yn "anweledig" yn ôl rhai[7]

Llenwyd bwlch y gofadail wreiddiol yn 1950 gydag un newydd, symlach sef obelisg a ddylundwyd gan Raymond McGrath in 1950.[3]

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu