Cofiant a phregethau y diweddar Barch David Charles Davies
Mae Cofiant a phregethau y diweddar Barch. David Charles Davies, gan E. Wynne Parry yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1896.[1]
Cefndir
golyguMae'r gyfrol yn adrodd hanes David Charles Davies (11 Mai 1826 - 26 Medi 1891), Gwleidydd, diwinydd, pennaeth coleg a gweinidog [2][3]
Cynnwys
golyguMae'r cofiant yn rhoi hanes magwraeth ac ieuenctid Davies yn Aberystwyth a'i addysg fel un o ddisgyblion cyntaf Coleg y Bala a'i addysg yn Hanley, Llundain a Phrifysgol Caeredin. Ceir hanes ei fywyd fel gweinidog yn y Drenewydd, Llanfair-ym-muallt, Lerpwl a Chapel Jewin, Llundain. Mae penodau olaf y llyfr yn ymwneud â chyfnod Davies fel athro a phrifathro Coleg Trefeca, ei ymddeoliad i Fangor a'i farwolaeth yno. Wedi diwedd y cofiant ceir copïau o ugain o'i bregethau. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]
Penodau
golyguMae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
- Bore oes
- Dan addysg yn Hanley, Llundain, Edinburgh
- Blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth 1848-1859
- Llundain
- Bangor a Threfeca
- Fel pregethwr a darlithydd
- Atodiad
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Parry, E. Wynne (1896). Cofiant a phregethau y diweddar Barch. David Charles Davies. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
- ↑ David Charles Davies - Y Bywgraffiadur Cymreig adalwyd 27 Tachwedd 2019
- ↑ David Charles Davies - Bywgraffiadur Rhydychen adalwyd 27 Tachwedd 2019
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.