Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn
Mae Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn, gan Owen Thomas yn gofiant a gyhoeddwyd gan Argraffwasg Hughes a'i Fab, Wrecsam ym 1874.[1]
John Jones, Talsarn | |
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Owen Thomas |
Cyhoeddwr | Hughes a'i Fab |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1874 |
Genre | cofiant |
Cefndir
golyguMae'r gyfrol yn adrodd hanes John Jones, Talysarn (1 Mawrth 1796 – 16 Awst 1857), un o bregethwr mwyaf amlwg y Methodistiaid Calfinaidd ei ddydd.[2]
Cynnwys
golyguMae'r cofiant yn sôn am enedigaeth a magwraeth Jones yn Tanycastell, Dolwyddelan. Mae'r gyfrol yn sôn amdano fel bachgen ifanc crefyddol a rhoddodd gorau i'w ffydd i droi at wagedd y byd ond a chafodd tröedigaeth drachefn wedi gwrando ar Henry Rees yn pregethu yn Llansannan. Ceir hanes ei gyfnod yn gweithio fel labrwr yn adeiladu'r ffordd rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen (yr A5 bellach) ac yn gweithio yn chwarel yn Nhalysarn. Gan nad oedd yn weinidog parhaol ar un capel arbennig mae llawer o benodau'r llyfr yn ymwneud a'i deithiau mynych o ambell Gymru a Lloegr i bregethu a lledaenu'r Efengyl. Mae'r llyfr hefyd yn ymdrin â phynciau llosg crefydd yn ei gyfnod megis yr anghytundeb rhwng y Methodistiaid Calfinaidd a'r Methodistiaid Wesleaidd (neu'r Arminiaid fel mae'r llyfr yn eu galw) a dadleuon mewnol yr enwad Calfinaidd. Ceir hefyd penodau ar gefndir hanes Methodistiaeth yng Nghymru.
Mae Cofiant John Jones, Talysarn yn llyfr swmpus efo 1052 o dudalennau. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[3]
Penodau
golyguMae'r gyfrol yn gynnwys y penodau canlynol:
- Bore ei Oes : 1796-1807
- Dyddiau ei Ieuenctid : 1807 — 1815.
- Ei Ymdaith yn y Wlad Bell : 1816—1819
- Pregethu hyd ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol : 1821
- O’i dderbyniad i’r Cyfarfod Misol hyd ei Briodas : 1821 — 1823.
- O’i Briodas hyd ei dderbyniad yn Aelod o’r Gymdeithasfa : 1823 — 1824.
- O’i dderbyniad yn Aelod o’r Gymdeithasfa hyd ei Ordeiniad : 1824 — 1829.
- Ymroddiad i Lafur Gweinidogaethol Cyflawn : 1829 — 1838.
- Blynyddoedd dechreuad cyfnewidiad yn nodwedd ei Weinidogaeth : 1833—1840.
- Dadleuon Diwinyddol Cymru : 1707-1841.
- Rhan I. Dadleuon rhwng Calfiniaid ac Arminiaid : 1707 - 1881
- Rhan II. Dadleuon rhwng Calfiniaid a'i gilydd: 1811 - 1841.
- Rhan III. Dadleuon yng Nghorff y Methodistiaid : 1814 - 1841
- Blynyddoedd Cyflawnder ei Nerth : 1841—1849.
- Blynyddoedd ei Adolygiaeth ar Gloddfa Dorothea : 1850 — 1852.
- Blynyddoedd Diweddaf ei Einioes : 1853 1857.
- Ei Gystudd diweddaf a’i Farwolaeth : Mawrth— Awst, 1857
- Ei Gysylltiad â’r Weinidogaeth Gymreig, a’i Gymeriad fel Pregethwr.
- Rhan I. Byr olygiad ar y Pulpud Methodistaidd hyd ei ddyddiau ef.
- Rhan II. Ei Nodweddion neilltuol ef fel Pregethwr.
- Atodiad yn cynnwys diwygiadau ac ychwanegiadau
- Mynegai
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas, Owen (1874). Cofiant John Jones Talsarn. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
- ↑ "JONES, JOHN (1796 - 1857), pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-28.
- ↑ "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.