Coleg Gwent

coleg addysg bellach, ar gyfer yr hen sir Gwent. Gan gynnwys campysau yn: Casnewydd, Cross Keys, Torfaen, Glyn Ebwy, a Brynbuga

Coleg Gwent ( Saesneg: Gwent College) yw coleg addysg bellach mwyaf Cymru mewn gwahanol leoliadau yn hen sir Gwent. [1] Tueddir bellach i arddal yr enw, Coleg Gwent, yn uniaith Gymraeg am y sefydliad.[2]

Coleg Gwent
Enghraifft o'r canlynolcoleg addysg bellach Edit this on Wikidata
LleoliadCasnewydd Edit this on Wikidata
Map
Isgwmni/auColeg Crosskeys, Gwent Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.coleggwent.ac.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mynedfa Coleg Gwent ar gampws Casnewydd

Mae ganddi 24,000 o fyfyrwyr [3] yn amrywio o ymadawyr ysgol uwchradd i fyfyrwyr aeddfed . Mae ystod eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol rhan-amser ac amser llawn ar gael yn y coleg.

Mae'n rhan o'r rhwydwaith ar gyfer y sector, sef ColegauCymru.

Campysau golygu

 
Campws Glyn Ebwy, Coleg Gwent (2013)

Mae’r coleg yn gweithredu o bum campws [4] – Dinas Casnewydd, Crosskeys, Brynbuga a Pharth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy, a champws pwrpasol gwerth £24 miliwn yng nghanol Cwmbrân ‘Parth Dysgu Torfaen ’ yw cartref addysg ôl-16 i bawb ym mwrdeistref Torfaen.

Mae yna hefyd ddwy ganolfan 'Learn-IT', wedi'u lleoli yn Nhrefynwy a Chwmbrân . Mae'r rhain yn cynnig cyrsiau hyblyg, galw heibio ar ystod o bynciau Technoleg Gwybodaeth yn ogystal â marchnata, mathemateg, Saesneg iaith a Chymraeg .

Mae pencadlys gweinyddol y coleg ar gampws Brynbuga.

Mae campws Pont-y- pŵl bellach ar gau.

Cydweithio golygu

 
Campws Brynbuga, Coleg Gwent (2207)

Mae'r coleg yn gweithio ar y cyd â'r pum awdurdod addysg lleol yn Ne-ddwyrain Cymru i ddarparu cwricwlwm helaeth sydd wedi'i gynllunio i fodloni anghenion dysgwyr o bob oed.

Cefnogaeth i fyfyrwyr golygu

Mae gan Goleg Gwent ystod o wasanaethau dysgwyr i helpu i gefnogi myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys llyfrgell ac adnoddau cyfrifiadurol a gwybodaeth ac Undeb Myfyrwyr .

Hyfforddiant galwedigaethol golygu

Mae gan y coleg ystod o gyfleusterau hyfforddiant galwedigaethol hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys bwyty hyfforddi a salonau gwallt a harddwch ar gampws Crosskeys ( taith rithwir ar gael ), Glyn Ebwy, Casnewydd a Phont-y-pŵl. Mae gweithdai hefyd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio peirianneg ac adeiladu.

Yn ogystal, mae campws Brynbuga yn cynnig cyrsiau amaethyddol ac mae ganddo fferm weithiol ( taith rithwir ar gael ), canolfan marchogaeth a chanolfan gofal anifeiliaid ar ei safle.

Coleg Gwent a'r Gymraeg golygu

Er mai Saesneg yw, i bob pwrpas, unig iaith weinyddol a dysgu Coleg Gwent, ceir peth darpariaeth yn y Gymraeg.

Mae Coleg Gwent yn darparu cyrsiau Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ('Cymraeg i Oedolion' i nifer ar lafar) ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy. Mae’n bosib mynd i ddosbarth nos neu ddilyn cwrs dwys neu hyd yn oed cyfuno gwersi yn y dosbarth gyda dysgu ar-lein. Lleolir y gwasanaeth i'r hen sir Gwent ar gampws Cross Keys Coleg Gwent.[5]


Ceir hefyd cyfrif Twitter Cymraeg i'r coleg a sianel Gymraeg ar Youtube i'r sefydliad. Mae'r fideos yn arddangos gwaith y myfyrwyr a'r Coleg.

Cyfeiriadau golygu

  1. Coleg Gwent home page
  2. (yn en) Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2023, https://www.youtube.com/watch?v=dRUWEY6KNpo, adalwyd 2023-06-01
  3. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-21. Cyrchwyd 2014-01-21.CS1 maint: archived copy as title (link)
  4. Coleg Gwent Campuses
  5. "Dysgu Cymraeg Gwent". Dysgu Cymraeg. Cyrchwyd 2023-06-01.

Dolenni allanol golygu