Andrew Davies (awdur)

sgriptiwr a'r nofelydd o Gymru

Awdur nofelau a sgriptiwr ffilm-a-theledu Cymreig yw Andrew Wynford Davies (ganwyd 20 Medi 1936) sy'n fwyaf adnabyddus am Marmalade Atkins a A Very Peculiar Practice, a'i addasiadau o Vanity Fair, Pride and Prejudice a War and Peace. Fe'i wnaed yn Gymrawd BAFTA yn 2002.

Andrew Davies
Geni Andrew Wynford Davies
(1936-09-20) 20 Medi 1936 (88 oed)
Rhiwbeina, Caerdydd
Galwedigaeth Awdur (teledu a llyfrau)
Cenedligrwydd Cymru Cymro
Addysg Coleg Prifysgol Llundain
Gwaith nodedig
Priod Diana Huntley (1960–presennol)

Addysg a bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Davies /ˈdvɪs/ yn Rhiwbeina, Caerdydd. Fe aeth i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd ac yna Coleg Prifysgol Llundain, lle derbyniodd radd BA mewn Saesneg yn 1957. Cymerodd swydd fel athro yn Ysgol Ramadeg St. Clement Danes yn Llundain, ac fe weithiodd yno o 1958–61. Roedd ganddo swydd debyg yn Ysgol Gyfun Woodberry Down yn Hackney, Llundain o 1961–63. Yn dilyn hynny roedd yn ddarlithiwr mewn Saesneg yng Ngholeg Addysg Bellach Coventry, ac wedyn ym Mhrifysgol Warwick.

Yn 1960, cyfrannodd Davies ddeunydd i gyfres Monday Night at Home ar wasanaeth radio Home Service y BBC, ochr yn ochr â Harold Pinter a Ivor Cutler. Ysgrifennodd ei ddrama radio gyntaf yn 1964 a fe'i dilynwyd gan lawer mwy. Fe briododd Diana Huntley yn 1960; mae gan y cwpl mab a merch. Mae'n byw yn Kenilworth, tref yn Swydd Warwick.

Darlledwyd drama deledu gyntaf Davies, Who's Going to Take Me On?, yn 1967 fel rhan o gyfres The Wednesday Play ar BBC1. Roedd ei ddramau cyntaf yn waith ar yr ochr i'w brif swydd yn y byd addysg, ac roedd llawer ohonynt yn ymddangos mewn cyfresi detholiad fel Thirty Minute Theatre, Play for Today a Centre Stage. Ei gyfres gyntaf yn addasu darn o ffuglen oedd To Serve Them All My Days (1980), o'r nofel gan R. F. Delderfield. Roedd y ddrama-gomedi A Very Peculiar Practice (1986-88) yn gyfres wedi seilio ar gampws prifysgol yn tynnu ar ei brofiadau ym myd addysg.

Mae'n fwyaf adnabyddus erbyn hyn am ei waith yn addasu llenyddiaeth glasurol i deledu yn cynnwys Pride and Prejudice (1995) yn serennu Colin Firth a Jennifer Ehle, Vanity Fair (1998), a Sense and Sensibility (2008). Ysgrifennodd y sgript teledu ar gyfer cynhyrchiad y BBC o Middlemarch (1994) a ffilm o'r un enw a fwriadwyd i'w gynhyrchu yn 2001.[1][2]

Ar y cyd gyda Bernadette Davis fe ddyfeisiodd y comedi sefyllfa Game On ar gyfer BBC2 a fe gyd-hysgrifennodd y ddwy gyfres gyntaf ddarlledwyd yn 1995 a 1996.

Roedd poblogrwydd ei addasiad o ddrama gyffro wleidyddol House of Cards gan Michael Dobbs yn ddylanwad sylweddol ar benderfyniad Dobbs i ysgrifennu dau ddilyniant, a addaswyd i deledu gan Davies yn ogystal. Yn y byd ffilm, fe gydweithiodd ar sgript i ddwy ffilm Bridget Jones, oedd yn seiliedig ar nofelau llwyddiannus Helen Fielding

Mae hefyd yn awdur toreithiog i blant. Ei nofel gyntaf i blant oedd Conrad's War, a gyhoeddwyd gan Blackie yn 1978. Enillodd Davies wobr flynyddol Ffuglen Plant y Guardian, sydd yn cael ei feirniadu gan banel o awduron plant Prydeinig ac sy'n gwobrwyo llyfr gorau'r flwyddyn gan awdur sydd heb ei ennill eto.[3] Ysgrifennodd y llyfr a'r gyfres deledu Alfonso Bonzo, ac anturiaethau Marmalade Atkins (cyfres deledu a nifer o lyfrau). Ysgrifennodd y storïau Dark Towers and Badger Girl ar gyfer y gyfres deledu Look and Read, oedd yn un o raglenni addysgol y BBC.

Yn 2008 gwelwyd ei addasiad o'r nofel Affinity (1999) gan Sarah Waters, y ffilm Brideshead Revisited o nofel Evelyn Waugh, cyfres deledu'r BBC Little Dorrit o straeon Charles Dickens. Enillodd Little Dorrit 7 o'i 11 enwebiad Emmy a enillodd Davies yr Emmy ar gyfer Ysgrifennu Eithriadol ar gyfer Cyfres Fer.

Fe roedd addasiad wedi ei gynllunio ar gyfer un o weithiau llai poblogaidd Dickens, a chyfres o nofelau Palliser gan Anthony Trollope ond fe roddwyd y gorau i'r ddau gan y BBC yn hwyr yn 2009, yn dilyn cyhoeddiad blaenorol i gael newid o "ddramau boned".[4]

Yn dilyn llwyddiant ITV gyda'r ddrama gyfnod Downton Abbey fe ddarlledwyd drama Mr Selfridge, a ysgrifennwyd gan Davies ac yn serennu Jeremy Piven.[5] Darlledwyd y gyfres gyntaf ar 6 Ionawr 2013.

Ar 18 Chwefror 2013, cyhoeddodd y BBC gynlluniau am addasiad chwe phennod o War & Peace gan Leo Tolstoy i'w sgriptio gan Davies a fe'i darlledwyd ar BBC One yn Ionawr 2016.[6]

Ffilmyddiaeth

golygu

Sinema

golygu
  • Circle of Friends (1995)
  • The Tailor of Panama (2001)
  • Bridget Jones's Diary (2001, gyda Helen Fielding a Richard Curtis)
  • Bridget Jones: The Edge of Reason (2004, gyda Helen Fielding)
  • Brideshead Revisited (2008)
  • The Three Musketeers (2011)

Nofelau

golygu
  • Conrad's War (Blackie and Son, 1978), enillydd y Guardian Prize[3]
  • Getting Hurt (1989), ar gyfer oedolion
  • Dirty Faxes (1990), straeon byr
  • B. Monkey (1992) —addaswyd gan eraill fel y ffilm o 1998 B. Monkey
Yn seiliedig ar y gyfres deledu
  • A Very Peculiar Practice (1986, Coronet) —addasiad nofel A Very Peculiar Practice, cyfres un
  • A Very Peculiar Practice: The New Frontier (1988, Methuen)

Dramau llwyfan

golygu
  • Rose (1980)
  • Prin (1990)

Llyfrau darluniau

golygu

Mae Andrew a Diana Davies wedi ysgrifennu o leiaf dau lyfr darluniau i blant.

  • Poonam's Pets (Methuen Children's, 1990), darluniwyd gan Paul Dowling
  • Raj In Charge (Hamish Hamilton, 1994), darluniwyd gan Debi Gliori

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Middlemarch". IMDb. Cyrchwyd 5 September 2015.
  2. Adam Dawtrey. "Sam Mendes shifts to comedy". Variety. Cyrchwyd 5 September 2015.
  3. 3.0 3.1 "Guardian children's fiction prize relaunched: Entry details and list of past winners". theguardian 12 March 2001.
  4. "BBC period drama has gone downmarket, says Andrew Davies". Telegraph.co.uk. 28 September 2009. Cyrchwyd 5 September 2015.
  5. "ITV press release". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-15. Cyrchwyd 2016-01-17.
  6. "BBC - BBC One announces adaptation of War and Peace by Andrew Davies - Media Centre". bbc.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-03. Cyrchwyd 5 September 2015.

Dolenni allanol

golygu