Coleg Prifysgol Llundain
Mae Coleg Prifysgol Llundain (Saesneg: University College London neu UCL) yn rhan o Brifysgol Llundain. Dyma'r sefydliad addysg uwch mwyaf yn Llundain a'r sefydliad mwyaf ar gyfer myfyrwyr â gradd yn y Deyrnas Unedig.[1] Mae'n aelod o'r League of European Research Universities.
Arwyddair | Cuncti adsint meritaeque expectent praemia palmae. |
---|---|
Math | coleg prifysgol, sefydliad academaidd, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol |
Ardal weinyddol | Bloomsbury |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Llundain |
Lleoliad | Bloomsbury, Llundain, Stratford, Llundain |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5247°N 0.1336°W |
Cod post | WC1E 6BT |
Sefydlwydwyd gan | Henry Brougham, Barwn 1af Brougham a Vaux |
Fe'i sefydlwyd ar 11 Chwefror 1826, yn seiliedig ar syniadau radical yr athronydd Jeremy Bentham. Hon oedd y brifysgol gyntaf yn Lloegr i dderbyn myfrywyr nad oedd yn aelodau o Eglwys Loegr, a'r cyntaf i dderbyn merched. Lleolir ei phrif adeilad, a godwyd i gynlluniau neo-glasurol y pensaer William Wilkins, yn ardal Bloomsbury yng nghanol Llundain.
Mae ysgol gelf y Slade, lle astudiodd Gwen John ac Augustus John ymhlith nifer o arlunwyr eraill, yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain. Fe'i sefydlwyd ym 1871 gyda rhodd gan y cyfreithiwr Felix Slade.
Oriel
golygu
|
Myfyrwyr
golygu- A. E. Housman (1859–1936), bardd
- Andrew Davies (g. 1936), awdur
- Andrew Vicari (1938–2016), arlunydd
- David Crystal (g. 1941), ieithydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) UCL and the Institute of Education merger confirmed. Coleg Prifysgol Llundain (25 Tachwedd 2014). Adalwyd ar 13 Hydref 2015.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol