Colled a difrod
Yng nghyd-destun proses Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC), colled a difrod yw’r niwed a achosir gan newid hinsawdd anthropogenig (a gynhyrchir gan bobl).[1]
Enghraifft o'r canlynol | fund |
---|---|
Math | straenachoswr |
Dechrau/Sefydlu | 2022 |
Prif bwnc | counterculture of the 1960s |
Ceir anghydfod ynghylch yr ymateb priodol i golled a difrod ers mabwysiadu'r UNFCCC. Mae sefydlu atebolrwydd ac iawndal am golled a difrod wedi bod yn nod hirsefydlog i wledydd a niweidiwyd, y gwledydd sy'n datblygu yng Nghynghrair Taleithiau'r Ynysoedd Bychain (AOSIS) a'r Grŵp Gwledydd Lleiaf Datblygedig.[2] Fodd bynnag, mae gwledydd datblygedig wedi gwrthsefyll hyn. Mae mecanwaith colled a difrod presennol UNFCCC, SEF Mecanwaith Rhyngwladol Warsaw ar gyfer Colled a Difrod, yn canolbwyntio ar ymchwil a deialog yn hytrach nag atebolrwydd neu iawndal.
Bydd llawer o drin a thrafod y cytundeb yn ystod y blynyddoedd nesaf, ond cred un arbenigwyr o Gymru ar y pwnc yw 'na fydd dim byd o bwys yn digwydd am flynyddoedd maith. Unwaith eto, mae'r gwledydd tlawd ar drugaredd y rhai cyfoethog.' (Barn Rhif 719).[3]
Diffiniad
golyguMae UNFCCC wedi diffinio colled a difrod i gynnwys niwed sy'n deillio o ddigwyddiadau sydyn (trychinebau hinsawdd, megis seiclonau) yn ogystal â phrosesau araf fel codi lefel y môr).[4] Gall colled a difrod ddigwydd mewn systemau dynol (fel bywoliaethau) yn ogystal â systemau naturiol (fel bioamrywiaeth), er bod y pwyslais mewn ymchwil a pholisi ar yr effeithiau ar bobl.[5] O fewn maes colled a difrod i systemau dynol, gwahaniaethir rhwng colledion economaidd a cholledion aneconomaidd. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau yw bod colledion aneconomaidd yn ymwneud â phethau nad ydynt yn cael eu masnachu'n gyffredin mewn marchnadoedd.[6]
Mae iawndal hinsawdd yn daliadau colled a difrod sy'n seiliedig ar y cysyniad o wneud iawn ac yn fath o gyfiawnder hinsawdd, lle mae iawndal yn angenrheidiol i ddal gwledydd datblygedig yn atebol am golled a difrod ac mae'n rhwymedigaeth foesegol a moesol.[7][8][9]
Dywedodd ymgynghorydd o Fangladesh yn COP26, "Mae'r term 'colled a difrod' yn air teg (euphemism) ar gyfer termau nad ydym yn cael eu defnyddio, sef: 'atebolrwydd ac iawndal '."[10]
Mecanwaith Rhyngwladol Warsaw ar gyfer Colled a Difrod
golyguMae Mecanwaith Rhyngwladol Warsaw ar gyfer Colled a Difrod, a grëwyd yn 2013, yn cydnabod bod "colled a difrod sy'n gysylltiedig ag effeithiau andwyol newid hinsawdd yn cynnwys, ac mewn rhai achosion yn ymwneud â mwy na'r hyn y gellir ei leihau trwy addasu".[11] Mae ei fandad yn cynnwys "gwella gwybodaeth a dealltwriaeth", "cryfhau deialog, cydlyniad a chynghanedd rhwng y rhanddeiliaid perthnasol", a "gwella camau gweithredu a chymorth, gan gynnwys cyllid, technoleg ac adeiladu'r gallu i fynd i'r afael â cholled a difrod sy'n gysylltiedig ag effeithiau andwyol newid hinsawdd".[11] Fodd bynnag, nid yw'n gwneud unrhyw ddarpariaethau ar gyfer atebolrwydd nac iawndal am golled a difrod.
Mae Cytundeb Paris yn darparu ar gyfer parhad Mecanwaith Rhyngwladol Warsaw ond mae'n datgan yn benodol nad yw'n "cynnwys nac yn darparu sail ar gyfer unrhyw atebolrwydd neu iawndal".[12] Roedd cynnwys y cymal hwn yn amod ac yn hanfodol, gan y gwledydd datblygedig, yn enwedig yr Unol Daleithiau, i gynnwys cyfeiriad at golled a difrod.[2][13]
Mewn adroddiadau gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd
golyguNid oedd gan 5ed Adroddiad Asesu’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), a gyhoeddwyd yn 2013-2014 unrhyw bennod ar wahân ar golled a difrod, ond roedd Gweithgor II: Effeithiau, Addasiad a Bregusrwydd (WG2)[14] Pennod 16 yn berthnasol iawn i bobl sydd â diddordeb mewn colled a difrod. Roedd dadansoddiad data ansoddol o’r hyn sydd gan 5ed Adroddiad Asesu’r IPCC i’w ddweud am golled a difrod yn syndod yn dangos bod y term yn cael ei ddefnyddio’n llawer amlach mewn datganiadau am wledydd Atodiad 1 (e.e. UDA, Awstralia neu wledydd Ewropeaidd) nag yn y testun am wledydd nad ydynt yn Atodiad 1 (y rhan fwyaf o wledydd yn Affrica, Asia America Ladin a'r Môr Tawel), sy'n tueddu i fod yn fwy bregus ac yn agored i effeithiau enbyd newid hinsawdd.[15] Er gwaethaf awgrymiadau dro ar ôl tro gan gynrychiolwyr y gwledydd bregus hyn, ni soniwyd gair yn 6ed Adroddiad Asesu'r IPCC bennod ar golled a difrod.
COP 27
golyguDerbyniwyd y cysyniad o 'golled a difrod' a chrybwyllwyd y bydd Rhwydwaith Santiago'n sefydlu fframwaith ar gyfer y broses.
Ar ôl tri degawd o wthio am iawndal ar gyfer 'Colled a Difrod' a achosir gan newid hinsawdd, mabwysiadodd 27fed Cynhadledd y Partion (y cenhedloedd) y cynnig. Mae'r partïon yn cytuno i ddefnyddio Rhwydwaith Santiago, a sefydlwyd yn COP25,[16] i ddarparu cymorth technegol i osgoi, lleihau, a mynd i'r afael â cholled a difrod.[17]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Introduction to loss and damage". unfccc.int. Cyrchwyd 2020-01-10.
- ↑ 2.0 2.1 "Loss, Damage and Responsibility after COP21: All Options Open for the Paris Agreement". ResearchGate (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-05-20.
- ↑ Erin Owain; Barn Rhif 719; Rhagfyr 2022 / Ionawr 2023; tud. 4
- ↑ Warner, K. and van der Geest, K. (2013). Loss and damage from climate change: Local-level evidence from nine vulnerable countries. International Journal of Global Warming, Vol 5 (4): 367-386.
- ↑ A recent exception is this paper: Zommers et al. (2014). Loss and damage to ecosystem services. Archifwyd 2017-04-08 yn y Peiriant Wayback UNU-EHS Working Paper Series, No.12. Bonn: United Nations University Institute of Environment and Human Security (UNU-EHS).
- ↑ UNFCCC (2013). Non-economic losses in the context of the work programme on loss and damage. UNFCCC Technical Paper.
- ↑ Manke|, Kara (2022-05-04). "What is the role of reparations in delivering climate justice?". Berkeley News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-18.
- ↑ Bhadani, Anita (2021-11-29). "A Guide to Climate Reparations". YES! Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-04.
- ↑ "'A moral responsibility': Scotland calls for climate reparations ahead of COP27". MSN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-18.
- ↑ Sengupta, Somini (2021-11-11). "Calls for Climate Reparations Reach Boiling Point in Glasgow Talks". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2022-11-08.
- ↑ 11.0 11.1 "Report of the Conference of the Parties on its nineteenth session, held in Warsaw from 11 to 23 November 2013" (PDF).
- ↑ "Report of the Conference of the Parties on its twenty-first session, held in Paris from 30 November to 13 December 2015" (PDF).
- ↑ "Explainer: Dealing with the 'loss and damage' caused by climate change". Carbon Brief (yn Saesneg). 2017-05-09. Cyrchwyd 2019-05-20.
- ↑ IPCC (2001), Working Group II: Impacts, Adaptation and Vulnerability.
- ↑ Van der Geest, K. & Warner, K. (2019) Loss and damage in the Archifwyd 2020-05-08 yn y Peiriant WaybackIPCC Fifth Assessment Report (Working Group II): a text-mining analysis. climate Policy, online first. DOI: 10.1080/14693062.2019.1704678.
- ↑ United Nations, About the Santiago Network, accessed 21 November 2022
- ↑ Farand, Chloé (2022-11-20). "What was decided at Cop27 climate talks in Sharm el-Sheikh?". Climate Home News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-20.