Darn bach o gnawd, rhwng y coluddyn mawr a'r coluddyn bach, ydy'r coluddyn crog (Saesneg: Vermiform appendix neu appendix ar lafar). Nid ydy gwyddoniaeth hyd yma wedi darganfod ei bwrpas. Mewn rhai pobl, mae'n chwyddo neu'n 'llidio', a'r unig ateb ydy ei dynnu drwy lawdriniaeth mewn ysbyty; naill ai laparotomi neu laparoscopi. Heb driniaeth, mae cleifion yn marw o lid y ffedog a sioc.


1: Y geg
2: Taflod
3: Tafod bach
4: Tafod
5: Dannedd
6: Chwarennau poer
7: Isdafodol
8: Isfandiblaidd
9: Parotid
10: Argeg (ffaryncs)
11: Sefnig (esoffagws)
12: Iau (Afu)
13: Coden fustl
14: Prif ddwythell y bustl
15: Stumog
16: Cefndedyn (pancreas)
17: Dwythell bancreatig
18: Coluddyn bach
19: Dwodenwm
20: Coluddyn gwag (jejwnwm)
21: Glasgoluddyn (ilëwm)
22: Coluddyn crog
23: Coluddyn mawr
24: Colon trawslin
25: Colon esgynnol
26: Coluddyn dall (caecwm)
27: Colon disgynnol
28: Colon crwm
29: Rhefr: rectwm
30: Rhefr: anws

Troi'n llidiog

golygu

Yn dilyn llawer o arbrofion, mae'n ymddangos mai rhyw rwystr yn 'lwmen' y coluddyn crog sy'n ei achosi i droi'n llidiog ac i ffyrnigo.[1] Cyn gynted mae'r rhwystr yma'n digwydd, mae'n llenwi gyda mwcws ac yn chwyddo (hynny yw, yn troi'n llidiog). Mae'r pwysedd y tu mewn i'r lwmen yn cynyddu gan greu thrombosis ac achludiad yn y pibelli bychain. Ar adegau prin iawn, fe all cleifion wella ei hun. Os nad, yna mae'r bacteria yn dechrau gollwng drwy'r waliau tenau (sydd eisoes yn dechrau marw) gan achosi llid y ffedog. Os yw hwnnw, wedyn, yn dwysáu ac yn gwaethygu, mae'n troi'n wenwyn yn y gwaed (neu 'septisimia') a marwolaeth yn ei ddilyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Awdur: Wangensteen OH, Bowers WF; 'Significance of the obstructive factor in the genesis of acute appendicitis' yn ei gyfrool Arch Surg; cyfrol 34; tud: 496-, 1937