Coluddyn dall

Mae'r coluddyn dall (Lladin: caecus sef 'dall; Sa: Caecum) yn rhan o'r perfedd, neu i fod yn fanwl gywir (o ran anatomeg ddynol) - y colon mawr ac felly'n rhan o'r system dreulio. Mae'n debyg o ran ffurf i goden fechan ac mae'n cysylltu'r iliwm gyda'r colon. Dyma, mewn gwirionedd, gychwyn y colon mawr. Caiff ei wahanu o'r iliwm gan y falf ileocecal (ICV) (neu falf Bauhin) a chaiff ei wahanu oddi wrth y colon, ar yr ochr arall, gan y cecocolic junction.


1: Y geg
2: Taflod
3: Gwacter
4: Tafod
5: Dannedd
6: Chwarennau poer
7: Is-fantol
8: Is-dafod
9: Parotid
10: Isfantol
11: Oesoffagws (y llwnc)
12: Iau (Afu)
13: Coden fustl
14: Dwythell y bustl
15: Stumog
16: Pancreas
17: Pibell bancreatig
18: Coluddyn bach
19: Dwodenwm
20: Coluddyn gwag
21: Ilëwm
22: Coluddyn crog
23: Coluddyn mawr
24: Colon traws
25: Colon esgynnol
26: Caecwm
27: Colon disgynnol
28: Colon crwm
29: Rectwm
30: Anws

AmrywiaethGolygu

Mae gan y mamaliaid a'r sgwid goluddyn dall ac mae gan adar ddau. Mae gan y rhan fwyaf o lysysyddion (Sa: herbivores) goluddyn dall cymharol fawr, a hwnnw'n llawn o facteria sy'n cynorthwyo i ddadelfennu neu dreulio'r seliwlos a geir mewn celloedd planhigion.

Mae gan gigysyddion (carnivores), ar y llaw arall, goluddyn dall llai na'r arfer, gyda chwlwm y coledd yn ei le.