Chwarren boer
Mae'r chwarennau poer mewn mamaliaid yn chwarennau ecsocrin h.y. mae ganddynt ddwythelli cludo hylif, sef y poer. Maen nhw hefyd yn secretu amylas, sef ensym dreuliol sy'n torri starts i lawr yn maltos a glwcos. Mewn pobol, a rhai anifeiliaid eraill, y secretiad yw alffa-amylas, a gaiff ei adnabod hefyd dan yr enw ptyalin.
Enghraifft o'r canlynol | math o chwarren, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | exocrine gland, organ llabedog, endid anatomegol arbennig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Anifeiliaid eraill
golyguMae chwarennau rhai anifeiliaid wedi'u haddasu, drwy esblygiad, i gynhyrchu proteinau; ceir amylas poerol yn y rhan fwyaf o adar a mamaliaid (gan gynnwys bodau dynol). Math o chwarennau poer wedi'u haddasu sydd gan y neidr i gynhyrchu gwenwyn, ac felly hefyd yr 'anghenfil Gila' a'r chwistlen (neu'r Sorex araneus).[1]
Ond mewn anifeiliaid fel pryfaid, caiff y chwarennau poer eu defnyddio i gynhyrchu proteinau allweddol fel sidan neu lud, ac mae'r chwarennau'n cynnwys cromosomau polyten sydd wedi bod yn hynod o ddefnyddiol o fewn maes ymchwil i geneteg.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Romer, Alfred Sherwood; Parsons, Thomas S. (1977). The Vertebrate Body. Philadelphia, PA: Holt-Saunders International. tt. 299–300. ISBN 0-03-910284-X.