Comisiynydd yr iaith Maori

Corff ombwdsmon i osod safonau a strategaeth ar gyfer adfer yr iaith Maroi yn Seland Newydd

Mae Comisiwn Iaith Māori (Māori: Te Taura Whiri ite Reo Māori; yn Saesneg: Māori Language Commission) yn endid hunanlywodraethol y Goron yn Seland Newydd a sefydlwyd gan Ddeddf Iaith Māori Seland Newydd 1987 (Deddf Iaith Māori) .[1][2] Mae Deddf Iaith Māori 2016, a ddisodlodd yr un flaenorol, yn parhau â bodolaeth a rôl y Comisiwn.[3] Mae pencadlys y corff yn 10 Customhouse Quay, Wellington.

Comisiynydd yr iaith Maori
Enghraifft o'r canlynolrheoleiddiwr iaith, Autonomous Crown Entity Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1987 Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthWellington Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tetaurawhiri.govt.nz/ Edit this on Wikidata
Ngahiwi Apanui, Prif Weithredwr Te Taura Whiri ite Reo Māori (2019)

Nid yw Te Taura Whiri ite Reo Maori yn aelodau o IALC, Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (International Association of Language Commissioners).

Cenhadaeth

golygu

Dywed gwefan swyddogol y Comisiwn yn glir;[4]

"Rydym yn bodoli i hyrwyddo te reo. Sefydlwyd Comisiwn Iaith Māori o dan Ddeddf Iaith Māori 1987 a pharhaodd o dan Te Ture Reo Māori 2016 i hybu’r defnydd o Māori fel iaith fyw ac fel cyfrwng cyfathrebu arferol."

Mae gan y Comisiwn sawl cenhadaeth gan gynnwys cychwyn, datblygu, cydgysylltu, archwilio, cynghori a chynorthwyo i weithredu polisïau, gweithdrefnau, mesurau ac arferion a luniwyd i weithredu’r datganiad yn adran 3 o’r Ddeddf Iaith hon Māori fel iaith swyddogol Seland Newydd.

Swyddiogaethau penodol

golygu

Ceir pum prif swyddogol yn ôl Deddf Iaith Māori 1987:

  1. Cychwyn, datblygu, cydgysylltu, adolygu, cynghori a chynorthwyo i weithredu polisïau, gweithdrefnau, mesurau, ac arferion a luniwyd i roi effaith i’r datganiad yn adran 3 o’r Ddeddf hon o’r iaith Māori fel iaith swyddogol y Gymdeithas. Seland Newydd
  2. Hyrwyddo’r iaith Māori yn gyffredinol, ac, yn arbennig, ei defnydd fel iaith fyw ac fel cyfrwng cyfathrebu arferol.
  3. Y swyddogaethau a roddir i’r Comisiwn gan adrannau 15 i 20 o’r Ddeddf hon mewn perthynas â thystysgrifau cymhwysedd yn yr iaith Māori
  4. Ystyried ac adrodd i’r Gweinidog ar unrhyw fater yn ymwneud â’r iaith Māori y gall y Gweinidog ei gyfeirio o bryd i’w gilydd at y Comisiwn am ei gyngor.
  5. Swyddogaethau eraill y gellir eu rhoi i'r Comisiwn gan unrhyw ddeddfiad arall
 
Deiseb yn galw ar gyflwyno Maoreg yn yr ysgolion, 1972

Sefydlwyd y Comisiwn wedi degawdau o ymgyrchu dros hawliau iaith frodorol Seland Newydd, y Maori.

Am y rhan fwyaf o'r 20g bu i lywodraeth Seland Newydd atal, gwahardd a'i gwneud yn gymdeithasol annerbyniol i siarad te reo Māori (yr iaith Maoreg) yn agored. Yn 1972 cyflwynodd hyrwyddwyr iaith Māori ddeiseb yn galw am ddysgu te reo mewn ysgolion sef, Deiseb Iaith Māori, i’r senedd. Roedd y ddeiseb yn cynnwys llofnodion mwy na 30,000 o Seland Newydd.

Daeth y diwrnod hwnnw – 14 Medi 1972 – yn Ddiwrnod yr Iaith Māori, a ehangodd maes o law i’r hyn a adwaenir gennym fel Wythnos yr Iaith Māori. Arweiniodd eu protest heddychlon hefyd at hawliad llwyddiannus Iaith Māori i Dribiwnlys Waitangi a deddfiad Deddf Iaith Māori 1987. Roedd y Ddeddf yn cydnabod Maoreg fel iaith swyddogol a hefyd yn creu yr hyn y galwa'r Maori yn "whare" - sef 'cartref', 'tŷ' efallai'n atosach i'r cysyniad Gymraeg o gynefin, i'r iaith).

Aelodau'r bwrdd sefydlu oedd Syr Tīmoti Karetū, Syr Kīngi Matutaera Ihaka, Y Fonesig Kāterina Te Heikōkō Mataira, Anita Moke a Dr Ray Harlow.

Bathu enw

golygu

Yn wahanol i Gomisiynwyr iaith eraill, nid yw teitl y swydd neu'r sefydliad yn cynnyw y gair "comisiwn" neu "comisiynydd" er mai dyna oedd yr enw i gychwyn. Yng nghyfarfod cyntaf y bwrdd yr enw gweithredol oedd ‘'Te Komihana mō te Reo Māori’', cyfieithiad o 'Gomisiwn yr Iaith Māori'. Gweithred gyntaf y bwrdd oedd disodli hwn gydag enw a deimlent oedd yn fwy cynhenid Māori sef: ‘'Te Taura Whiri i te Reo Māori', sydd, o'i gyfieithu yn uniongyrchol yn cyfieithu i "y rhaff sy’n clymu’r iaith". Bathwyd yr enw gan Syr Kingi oherwydd mai'r "rhaff sy'n ein clymu ni i gyd gyda'n gilydd yw ein hiaith. Rhaff sy'n cael ei gweu gan bob llwyth a phob person i fod yn gryf am byth." Yn yr un cyfarfod crëwyd y logo, rhaff wedi'i gwehyddu'n rhannol, gan y Fonesig Kāterina.[5]

Prif Weithredwyr

golygu

Prif Weithredwr y Comisiwn yn 2024 oedd Ngahiwi Apanui, cerddor, ymgyrchydd iaith, cyflwynydd radio, sefydlwr gorymdeithiau iaith Maori, ac addysgwr.[6]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allannol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Māori Language Act 1987; Māori Language Act 1987: repealed, on 30 April 2016, by section 48 of Te Ture mō Te Reo Māori 2016/the Māori Language Act 2016 (2016 No 17)". Llywodraeth Seland Newydd. 2016.
  2. "New Zealand Acts As Enacted, Maori Language Act 1987 (1987 No 176)". New Zealand Legal Information Institute. 2016. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.
  3. "Te Ture mō Te Reo Māori 2016 Māori Language Act 2016". Parliamentary Counsel Office. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.
  4. "Our Mahi". Gwefan Te Taura Whiri ite Reo Māori. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.
  5. "Our Story". Gwefan Te Taura Whiri ite Reo Māori. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.
  6. "People". Gwefan Te Taura Whiri ite Reo Māori. Cyrchwyd 12 Mehefin 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Seland Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.