Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith

Corff ryngwladol, cynrychiolir Cymru gan Comisiynydd y Gymraeg. Adnebir gan aml gan y talfyriad Saesneg IALC

Mae Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith a adewinir yn ryngwladol fel yr International Association of Language Commissioners a'r talfyriad IALC yn sefydliad gyda'r nod o gefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf.[1] Fe'i sefydlwyd yn 2014 a cynrychiolir yr iaith Gymraeg gan Comisiynydd y Gymraeg.

Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
Meri Huws, cyn Gomisiynydd y Gymraeg bu'n cynrychioli'r Gymraeg ar IALC
Peidied drysu â'r International Association of Language Centres sy'n gorff ar wahân

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2014, wedi i'r Athro Colin H. Williams (ieithegydd Cymreig a darlithydd ar y Gymraeg a pholisïau iaith ym Mhrifysgol Caerdydd) a'r Gwyddelod, Peadar Ó Flatharta a Seán Ó Cuirreáin, drefnu cynhadledd i drafod hawliau dynol yn Nulyn yn 2013. Yn dilyn y trafodaethau hynny, cafwyd y syniad o ffurfio Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith.[2]

Amcanion

golygu

Ceir nifer o amcanion gan y Gymdeithas:[1]

  • Hybu, cefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol
  • Rhannu profiad, arferion gorau, dealltwriaeth a chysylltiadau rhwng swyddfeydd comisiynwyr iaith
  • Annog a galluogi cyfnewid gwybodaeth, hyfforddiant ac adnoddau datblygiad proffesiynol rhwng swyddfeydd y comisiynwyr iaith (gan gynnwys cyfleoedd cyfnewid)
  • Rhannu ymchwil seiliedig ar dystiolaeth er mwyn hyrwyddo hawliau ieithyddol
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl a gwerth comisiynwyr iaith ymhlith llywodraethau, asiantaethau gwladwriaethol, llunwyr polisi, academia, y cyfryngau a’r cyhoedd yn gyffredinol;
  • Cefnogi rhanbarthau sy’n dymuno creu swydd comisiynydd iaith neu hyrwyddo eu hawliau ieithyddol
  • Cydweithio â mudiadau sydd o'r un bryd ac yn rhoi gwerth ar hyrwyddo a gwarchod hawliau ac amrywiaeth ieithyddol; ;
  • Diffinio, cyhoeddi a pharhau i adolygu’r meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth drwy aelodaeth i swyddfeydd comisiynwyr iaith gan y gymdeithas a chynnig aelodaeth i'r rheini sy’n bodloni’r meini prawf hyn

Aelodau

golygu

Yn ogystal â Chomisiynydd y Gymraeg, aelodau eraill y Gymdeithas yw: Office of the Commissioner of Indigenous Language (Canada), Commissaire à la langue française Québec (Quebec, Canada), Commissioner of Official Languages for New Brunswick (Brunswick Newydd, Canada), Comisiynydd Ieithoedd Nunavut (Nunavut, Canada), Comisiynydd Ieithoedd y Northwest Territories (Northwest Territories, Canada), Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada (Canada), Swyddfa Gwasanaethau Ffrangeg Ontaria (Ontario, Canada), Comisiynydd Iaith Cosofo (Cosofo), Coimisinéir Teanga (Iwerddon), Síndic (Ombudsmon Catalaneg, Catalwnia), ac Ararteko (Ombudsmon Basgeg, Euskadi), Defensor del Pueblo de Navarra-Nafarroako Arartekoa (Nafarroa, Basgeg).[3]

Ceir hefyd Aelodaeth Arsylwi. Pleidleisiodd aelodau'r Gymdeithas yn unfrydol yn eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Bilbo ym mis Medi 2022 i greu categori aelodaeth newydd a fydd yn caniatáu i sefydliadau gael mynediad at weithgareddau IALC pan nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer aelodaeth lawn.[4]

Cynadleddau

golygu

Mae'r Gymdeithas wedi cynnal dwy gynhadledd yng Nghymru dan nawdd Comisiynydd y Gymraeg. Bu'r un gyntaf yn 2017 a'r ail un yn 2024, ill dau yng Nghaerdydd.[5][6] Ni chafwyd Cynhadledd lawn rhwng 2019 a 2024 oherwydd effeithiau Covid-19.[7]

Cynhaliwyd y cynadleddau yn:[8]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Amdanom ni". Gwefan IALC. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
  2. "Cynhadledd ieithoedd ryngwladol 'yn gyfle i ddysgu'". BBC Cymru Fyw. 10 Mehefin 2024.
  3. "Aelodau". Gwefan IALC. Cyrchwyd 10 Mehefin 2024.
  4. "Gwahoddiad". Gwefan IALC. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
  5. "Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, Cymru 2024". Gwefan IALC. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
  6. "Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, Cymru #IALC2024". Gwefan Comisiynydd y Gymraeg. Cyrchwyd 10 Mehefin 2024.
  7. "Cynhadledd ieithoedd ryngwladol 'yn gyfle i ddysgu'". BBC Cymru Fyw. 10 Mehefin 2024.
  8. "Newyddion". Gwefan IALC. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
  9. "Cynhadledd Ryngwladol Flynyddol, Cymru (16–17 Mai 2017)". Gwefan IALC. 2017. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
  10. "Seventh Annual International Conference (Bilbao, Basque Country)". Gwefan IALC. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.