Coimisinéir Teanga

Comisiynydd yr iaith Wyddeleg tebyg i Gomisinydd y Gymraeg.

Mae'r Coimisinéir Teanga (Cymraeg: "Comisynydd Iaith") yn swyddfa a grëwyd gan Acht na dTeangacha Oifigiúla 2003 ("Deddf Ieithoedd Swyddogol; Saesneg: Official Languages ​​Act) Gweriniaeth Iwerddon i hyrwyddo a diogelu hawliau ieithyddol siaradwyr Gwyddeleg a Saesneg yn Iwerddon. Penodir y Coimisinéir gan Arlywydd Iwerddon. Gelwir hefyd yn Oifig an Choimisinéara Teanga (Swyddfa'r Comisinydd Iaith) a sefydlwyd yn 2004.

Coimisinéir Teanga
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2004 Edit this on Wikidata
PencadlysAn Spidéal Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.coimisineir.ie/ Edit this on Wikidata

Mae pencadlys y Comisiynydd ym mhentref An Spidéal, ger dinas Gaillimh yng ngorllewin y Weriniaeth. Mae An Spidéal yn rhan o Gaeltacht ardal Conamara. Bu'r penderfyniad i leoli'r pencadlys yn y Gaeltacht yn benderfyniad bwriadol i hyrwyddo'r iaith a gwaith yn yr ardaloedd Gwyddeleg a wynebodd diboblogi hanesyddol.

Swyddogaeth

golygu

Mae swyddogaethau'r Comisinynydd yn dilyn rhai Comisiynydd y Gymraeg. Gwaith y Coimisinéir yn bennaf yw "plismona" erthyglau'r Ddeddf, sy'n rhoi grym deddfwriaethol i ddiffiniad Cyfansoddiad Iwerddon o Wyddeleg fel "Iaith swyddogol gyntaf" y wlad a Saesneg fel yr "ail iaith swyddogol". Mae swyddfa'r Comisiynydd yn datblygu cynlluniau iaith ar gyfer cyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau i siaradwyr y ddwy iaith swyddogol. Nid yw cyrff preifat wedi’u cynnwys yn swyddogol yn y Ddeddf ond mae’n gwneud darpariaethau ar gyfer ymestyn cymhwysedd y Ddeddf yn y dyfodol.

Mae'r Comisiynydd yn cydweithio, craffu a bwydo i strategaethau eraill Llywodraeth Iwerddon. Ymysg y rhain mae Strategaeth 20 Mlynedd ar gyfer y Wyddeleg a lansiwyd gan y Taoiseach ar 21 Rhagfyr 2010. Nod y strategaeth yw cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r Wyddeleg yn ddyddiol y tu allan i’r system addysg i 250,000 o bobl dros yr 20 mlynedd nesaf. Gwnaeth y Coimisineir argymhellion i’r ymgynghorwyr sy’n cynghori ar baratoi’r strategaeth 20 mlynedd ar gael yma.[1]

Pwerau'r Comisiynydd

golygu

Mae pwerau'r Coimisinéir Teanga yn Iwerddon yn debyg iawn i rai Ombwdsmon. Mae gan y Comisiynydd y pŵer i geisio gwybodaeth, dogfennau neu dystiolaeth lafar, a fyddai’n cynorthwyo i gyflawni ei ddyletswyddau. Gallai unrhyw un a geir yn euog o wrthod neu fethu â chydweithredu â’r Comisiynydd gael dirwy o €2,000 neu/a’i garcharu am 6 mis. Ond polisi'r Comisiynydd yw pwysleisio partneriaeth a chydweithrediad ac nid bygythiadau cyfreithiol.[2]

Cydweithio rhyngwladol

golygu

Mae Coimisinéir Teanga yn aelodau o Gymdeithas Ryngwladol y Comisinwyr Iaith (IALC).

Cyd-destun

golygu

Mae'r Comisinydd yn rhan o rwydwaith o sefydliadau o blaid yr iaith Wyddeleg megis Foras na Gaeilge er ei bod yn annibynnol arnynt.

Comisinwyr

golygu
  • Seán Ó Cuirreáin, 2004–2014
  • Rónán Ó Domhnaill, 2014–2023
  • Séamas Ó Concheanainn, 2023-presennol

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "About the Language". Gwefan Coimisinéir Teanga. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
  2. "Alt 10A FÓGRAÍOCHT AG COMHLACHTAÍ POIBLÍ FAISNÉIS ÓN GCOMHLACHT POIBLÍ (Adran 10A HYSBYSEBU GAN GYRFF CYHOEDDUS GWYBODAETH GAN Y CORFF CYHOEDDUS)". Gwefan y Comisiynydd. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.