Constance Bulwer-Lytton

ysgrifennwr, swffragét (1869-1923)

Ffeminist ddylanwadol o Loegr a Fienna oedd yr Arglwyddes Constance Bulwer-Lytton a adnabyddir, fel arfer, fel Constance Lytton ac a ddefnyddiai'r enw Jane Warton ar adegau (12 Ionawr 1869 - 2 Mai 1923). Mae'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, siaradwr cyhoeddus, ymgyrchydd dros hawliau merched ac fel swffragét.[1][2][3]

Constance Bulwer-Lytton
FfugenwJane Warton Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Chwefror 1869 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1923 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennwr, swffragét Edit this on Wikidata
TadRobert Bulwer-Lytton Edit this on Wikidata
MamEdith Villiers Edit this on Wikidata
PerthnasauLady Davina Bulwer-Lytton, Lady Anne Lytton Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal y Swffragét Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Fienna a bu farw yn Knebworth, Swydd Hertford lle'i claddwyd.[4][5][6][7]

Er iddi gael ei geni i deulu ariannog, gwrthododd gymdeithasu gyda'r dosbarth yma, ac ymunodd gdag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu'r WSPU), y grŵp mwyaf ,ilwriaethus, ac eithafol a ymgyrchai dros hawliau merched.[2][3]

Roedd yn ferch i raglaw (viceroy) ac roedd ei brawd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Arhosodd yn ddibriod, oherwydd gwrthododd ei mam ei chaniatâd i Lytton briodi dyn o "drefn gymdeithasol is".

Magwraeth a theulu golygu

Lytton oedd y trydydd o saith o blant Robert Bulwer-Lytton, iarll 1af Lytton ac Edith Villiers. Treuliodd rai o'i blynyddoedd cynnar yn India, lle'r oedd ei thad yn Llywodraethwr Cyffredinol; ef a wnaeth y cyhoeddiad bod y Frenhines Fictoria yn "Ymerawdwr India".

 
Lytton. mewn protest yn Lerpwl; 1910

Yn ôl pob golwg, cyfarfu â Winston Churchill tra oedd yn byw yn India; roedd Churchill a'i brawd Victor fel ceiliogod yn ceisio llaw Pamela Chichele-Plowden. Dywedir i Constance ddweud un tro, "Y tro cyntaf i chi weld Winston Churchill rydych chi'n gweld ei holl ddiffygion, ac am weddill eich bywyd rydych yn darganfod ei rinweddau". Er iddi dreulio'r rhan fwyaf o'i llencyndod yn Lloegr wedi'i hamgylchynu gan lawer o'r artistiaid, gwleidyddion a llenorion mawr y dydd, gwrthododd y ffordd o fyw aristocrataidd. Wedi i'w thad farw, ymddeolodd o'r golwg i ofalu am ei mam, gan wrthod â'r byd y tu allan. [8][9]

Ymgyrchydd golygu

Cafodd ei charcharu bedair gwaith, gan gynnwys unwaith yng ngharchar Walton yn Lerpwl o dan yr enw Jane Warton, lle dioddefodd fwydo gorfodol pan oedd yn ymprydio (ar streic newyn). Dewisodd y llysenw Jane Warton, a nododd i'r Awdurdodau mai ei gwaith oedd gwniadwraig (an ugly London seamstress, i osgoi derbyn triniaeth a breintiau arbennig oherwydd ei chysylltiadau teuluol. Dywedir fod y trawiad ar y galon, ei strôc, a'i marwolaeth gynnar yn 54 oed wedi eu priodoli, yn rhannol, i drawma'r streic newyn a'r bwydo gorfodol gan awdurdodau'r carchar.[10][11]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét (1909)[12][13] .


Cyfeiriadau golygu

  1. New York Times, 24 January 1910, Monday, "JANE WARTON" RELEASED.; Home Office Acts on Learning She Is Lady Constance Lytton.
  2. 2.0 2.1 Knebworth House, Lytton Family archives and History – Lady Constance Lytton and the Suffragettes Archifwyd 18 June 2008[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback.
  3. 3.0 3.1 Knebworth House – Lady Constance Lytton Timeline, The Principal Events of Lady Constance's Life Archifwyd 2 December 2008 yn y Peiriant Wayback.
  4. Cyffredinol: https://books.google.co.uk/books?id=RWWTDwAAQBAJ&pg=PA59&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false.
  5. Disgrifiwyd yn: https://www.agspak-buecher.de/G-Notz-Hg-Wegbereiterinnen-Beruehmte-und-zu-Unrecht-vergessene-Frauen-aus-der-Geschichte. dyddiad cyrchiad: 3 Ionawr 2024.
  6. Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
  7. Dyddiad marw: "Lady Constance Lytton". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  8. Aelodaeth: https://www.hertsmemories.org.uk/content/herts-history/people/lady-constance-lytton-suffragette. dyddiad cyrchiad: 14 Gorffennaf 2023.
  9. Anrhydeddau: https://artsandculture.google.com/asset/silver-hunger-strike-medal-presented-to-constance-lytton-toye-co-and-moore-joseph/kAFg2A53BnESyA?hl=en. dyddiad cyrchiad: 14 Gorffennaf 2023. https://books.google.co.uk/books?id=RWWTDwAAQBAJ&pg=PA59&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false.
  10. Schama, Simon (4 Mehefin 2002). "Victoria and Her Sisters". BBC Press Office. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2017.
  11. Lytton (1914), pennod 8
  12. https://artsandculture.google.com/asset/silver-hunger-strike-medal-presented-to-constance-lytton-toye-co-and-moore-joseph/kAFg2A53BnESyA?hl=en. dyddiad cyrchiad: 14 Gorffennaf 2023.
  13. https://books.google.co.uk/books?id=RWWTDwAAQBAJ&pg=PA59&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false.