Côr y Cewri
(Ailgyfeiriad o Cor y Cewri)
Cylch cerrig yw Côr y Cewri (Saesneg: Stonehenge), a godwyd yn Oes Newydd y Cerrig ar Wastadedd Caersallog i'r gogledd o ddinas Caersallog, Wiltshire, yn ne Lloegr. Mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986. Credir bellach iddo gael ei godi tua 3,650 CC.[1]
Math | atyniad twristaidd, cromlech, cylch cerrig, cofadeilad, safle archaeolegol, amgueddfa hanes, meingylch |
---|---|
Ardal weinyddol | Amesbury |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wiltshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.178889°N 1.826111°W |
Rheolir gan | English Heritage |
Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig, Oes yr Efydd |
Arddull pensaernïol | prehistoric Britain |
Perchnogaeth | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Deunydd | sarsen, carreg las |
Mae mwyafrif y cerrig yn dod o'r Marlborough Downs, ond mae cerrig gleision y cylch canol yn dod o fryniau'r Preseli, Sir Benfro ac wedi'u cludo yno bum mil o flynyddoedd yn ôl.[1] pan oedd y trigolion lleol yn cychwyn amaethu.
Mor gynnar â 1649, mynnodd John Aubrey mai'r derwyddion a gododd y cerrig, ac mae'r farn honno'n dal yn boblogaidd heddiw.