Copa mynydd a bryngaer 16.2 ha (40 acer) ym Maldwyn, Powys, yw Craig Rhiwarth. Tu ôl i'r gaer mae'r clogwyni'n codi 500 troedfedd tra bod llethr serth yn disgyn 1200 troedfedd i bentref Llangynog islaw. Mae'n gorwedd y tu ôl i bentref Llangynog, ar lethrau Y Clogydd (1954 troedfedd), sy'n rhan o gadwyn Y Berwyn. Rhed Afon Tanat wrth droed y graig. Mae'n safle naturiol cryf iawn gyda golygfeydd eang dros Ddyffryn Tanat islaw; cyfeiriad grid SJ054271. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 464metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Craig Rhiwarth
Mathbryngaer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlangynog, Powys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.832285°N 3.401896°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0548627121 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMG004 Edit this on Wikidata

Y fryngaer golygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG004.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

I'r gogledd mae hen fur adfeiliedig iawn yn dilyn rhediad naturiol y tir i fwlch tua 1500 troedfedd i fyny. Ymddengys fod yr unig fynedfa yn defnyddio hollt naturiol yn y graig ar yr ochr orllewinol. Mae wyneb y safle'n anwastad iawn, a cheir olion cytiau crwn yma ac acw yng nghanol y gaer, yn wynebu'r de. Ceid felly digon o le i gadw anifeiliad ac ymddengys fod y gaer wedi'i chodi fel amddiffynfa i gadw'r preiddiau'n ddiogel pan fyddai rhaid yn hytrach na fel trigfan barhaol (ni fyddai'n addas i fyw ynddo yn y gaeaf).[2]

Cloddiwyd rhannau o'r safle yn 1933, ond heb canfod unrhyw wrthrych o waith dyn. Ond mae'r ffaith fod hafotai canoloesol ar ran o'r safle yn dangos fod hanes hir i'r gaer.[2]

Y copa golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 532m (1745tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 30 Mehefin 2007.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofrestr Cadw.
  2. 2.0 2.1 A. H. A. Hogg, 'Early Iron Age Wales', yn I. Ll. Foster a Glyn Daniel (gol.), Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965).
  3. “Database of British and Irish hills”